
Bwriad y llyfr yw cynnig canllawiau ymarferol a defnyddiol i’r englynwr profiadol a llai profiadol fel ei gilydd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 5.95
Disgrifiad
Mae’r gyfrol hon yn rhoi cychwyn i gyfres newydd sbon, sef y gyfres ‘Sut i Greu’. Y bwriad yw gwahodd nifer o arbenigwyr yn eu maes i gynnig arweiniad i eraill yn y maes hwnnw, a chynnig awgrymiadau a chynghorion yngl?n â sut i fynd ati i greu drwy wahanol gyfryngau, er enghraifft, Sut i Greu Cywydd, Sut i Greu Awdl, Sut i Greu Soned, Sut i Greu Nofel a Sut i Greu Stori Fer.
Ceir chwe phennod yn Sut i Greu Englyn: ‘Pwyntiau Dechreuol’, ‘Hanfodion Englyn Da’, ‘Gwahanol Fathau o Englynion a Gwahanol Batrymau’, ‘Adeiladu Fesul Llinell’, ‘Trwsio a Thwtio’, ‘Y Broses o Englyna ar Waith’.