Dyma’r gyfrol gyntaf erioed i drafod crefft y gynghanedd yn unig. Mae’r gyfrol yn ymdrin â nifer o agweddau ar y grefft o gynganeddu a llunio barddoniaeth gynganeddol.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 10.95
Disgrifiad
Ceir penodau ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â’r gynghanedd, pynciau sy’n hanfodol o safbwynt deall natur y gynghanedd, er enghraifft: ‘Natur y Gynghanedd’, ‘Technegau’r Gynghanedd’, ‘Undod’, ‘Lefelau’r Gynghanedd’, ‘Crefft ac Awen’, ‘Myfyrdod’ a ‘Miwsig y Gynghanedd’.
Mae’r gyfrol yn gyfrol-ddilyniant i Anghenion y Gynghanedd, gyda’r gwahaniaeth sylfaenol mai crefft y gynghanedd ac nid rheolau’r gynghanedd a gofynion y mesurau traddodiadol a drafodir ynddi.