Cyflwynir Tlws Pat Neill i’r gerdd orau gan ddisgybl ysgol gynradd.
Anogir ysgolion i alluogi pobl ifanc i lunio cerdd yn ystod oriau’r ysgol a than gyfarwyddyd athro er mwyn sicrhau dilysrwydd y gwaith. Gellir gyrru gwaith y disgyblion i’r gystadleuaeth ar ran yr ysgol.
Gwobr
Cadair fechan hardd a gwobr ariannol yw’r wobr flynyddol. Bydd gwobr araiannol a thystysgrif hefyd i’r beirdd sy’n dod yn ail a thrydydd. Bydd gwobr o £50 o’r ysgol gyda’r nifer mwyaf o gerddi yn y prif ddosbarth!
Ers 2011 y diweddar Pat Neill, Llanarth, sy’n noddi’r gystadleuaeth trwy arian ei ewyllys.