Beth yn union yw'r gynghanedd? A yw hi'n rhywbeth sy'n newid o genhedlaeth i genhedlaeth? Yn y gyfrol fywiog a deniadol hon ceir golwg fwy trylwyr, mwy amrywiol a mwy cyffrous nag erioed ar yr hyn yw’r gynghanedd, heddiw.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Beth yn union yw’r gynghanedd? Dyma gwestiwn sylfaenol y gyfrol hon. Rhwng ei chloriau mae’r ddau olygydd ynghyd â llu o gyfranwyr eraill yn mynd ati i bwyso a mesur pob agwedd o’r addurn geiriol hynafol hwn sy’n gwbl unigryw i ni’r Cymry. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am arbrofion cynganeddol ein beirdd neu am geisio mynd ati i ddysgu’r gynghanedd o’r newydd, mae’r gyfrol hon i chi.
Gwyliwch y golygyddion yn trafod y gyfrol yn y lansiad:
Mae sawl astudiaeth drylwyr o’r gynghanedd wedi llwyddo i draethu a dadansoddi’r grefft dros y canrifoedd. Ond mae’r gyfrol hon yn fwy na hynny. Mae yma drafodaethau brathog a dadlau bywiog am arferion cynghaneddu’r oes sydd ohoni. Mae yma lwyfan agored a chyffrous i unigolion “ddweud eu dweud” ac ymateb i safbwyntiau ei gilydd. Mae yma erthyglau sy’n mynd o dan groen y grefft gan holi, ai rhywbeth sy’n esblygu yw’r gynghanedd ac, a yw’r gynghanedd yn ‘iaith’? At hynny, mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys canllaw hawdd iawn ei ddilyn i’r sawl sydd am fynd ati i gychwyn dysgu’r grefft o’r newydd, ynghyd â geirfa ddefnyddiol sy’n egluro rhai termau.
Cyfranwyr
A. Cynfael Lake, Alan Llwyd, Aneirin Karadog (gol.), Annes Glynn, Anwen Pierce, Caryl Bryn, Ceri Wyn Jones, Emyr Davies, Emyr Lewis, Eurig Salisbury (gol.), Gruffudd Antur, Grug Muse, Hywel Griffiths, Idris Reynolds, Iwan Rhys, Jim Parc Nest, Llyr Gwyn Lewis, Mei Mac, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Philippa Gibson, Rhys Dafis, Rhys Iorwerth, Tudur Dylan Jones, Tudur Hallam, Twm Morys.
Golygyddion
Mae Aneirin Karadog yn fardd, yn ddarlledwr ac yn ieithydd sy’n byw ym Mhont-y-berem ac mae Eurig Salisbury yn fardd, yn nofelydd ac yn ddarlithydd sy’n byw yn Aberystwyth. Hwy sy’n gyfrifol am y podlediad barddol misol, Clera.