Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Preifatrwydd a Cwcis

Preifatrwydd a Cwcis

Dyma esboniad o sut mae Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddefnyddwyr a thanysgrifwyr y wefan a’r cylchgrawn.

Crynodeb

  • Rydym wedi ein hymrwymo i ofynion GDPR a Deddf Gwarchod Data y Deyrnas Gyfunol.
  • Rydyn yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i gasglu gwybodaeth amhersonol am y defnydd a wneir ohoni.
  • Wrth greu cyfrif ar gyfer mewngofnodi, wrth danysgrifio, prynu nwyddau neu trwy gofrestru i dderbyn ein e-gylchlythyr, a thrwy ymrywmo i gyfrannu cynnwys i gylchgrawn Barddas, rydych yn darparu gwybodaeth bersonol i ni. Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un heb dderbyn eich caniatâd.
  • Mae modd i chi gysylltu â ni unrhyw bryd i ofyn inni ddangos, diwygio neu ddileu unrhyw wybodaeth yr ydych wedi ei roi i ni a’n bod ni yn ei dal amdanoch.
  • Defnyddir MailChimp gennym i greu e-gylchlythyrau Barddas. Mae’r manylion ebost y byddwch yn ei ddefnyddio wrth gofrestru neu danysgrifio yn cael eu trosglwyddo i MailChimp yn unol â’u Termau a’u Polisi Preifatrwydd.

Cwcis

Rydym yn defnyddio Cwcis ar y safle hwn er mwyn gwella effeithiolrwydd y wefan ac er mwyn casglu gwybodaeth amhersonol am eich defnydd o’r safle fel bod modd i ni hwyluso’r broses.

Beth yw cwcis?

Cadwyni neu ffeiliau testun bychain ydi cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol gan wefannau yr ydych yn ymweld â hwy.

Nid ydynt yn niweidio eich cyfrifiadur ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd yn caniatáu i ni eich hadnabod yn bersonol.

Pwrpas cwcis yw galluogi ein gwefan i adnabod eich cyfrifiadur ac adnabod gwybodaeth amhersonol benodol o fath arall, er enghraifft, pa borwr a ddefnyddir gennych.

Defnyddio cwcis

Defnyddir y wybodaeth hon i alluogi’r wefan i weithio ar eich dyfais, i sefydlu pa rannau o’r wefan all weithio’n well, neu i ddadansoddi pa mor aml mae pobl yn ymweld â’r safle a pha dudalennau maen nhw’n ymweld â hwy.

Nid ydym yn cysylltu’r data hwn gydag unrhyw wybodaeth (y byddwch efallai’n penderfynu darparu i ni mewn ffyrdd eraill) fyddai’n caniatáu i ni eich hadnabod yn bersonol.

Rydym yn nodi ein defnydd o cwcis ar y wefan hon yn glir, gyda chyswllt i’r polisi hwn. Trwy ddefnyddio’r wefan hon ein dealltwriaeth ydi eich bod wedi darllen y polisi hwn ac yn cytuno felly i ni yrru cwcis i’ch dyfais.

Os byddai’n well gennych beidio â chael cwcis wedi eu gyrru gan ein safle i’ch cyfrifiadur neu ddyfais mae modd i chi addasu eich porwr i’w gwrthod (gyda’r ddealltwriaeth y bydd hyn yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y wefan wrth i chi ei defnyddio).

Eich gwybodaeth

Gallech fod yn darparu gwybodaeth i ni unai trwy:

  • greu cyfrif i fewngofnodi i’n gwefan
  • tanysgrifio
  • prynu nwyddau gennym
  • cysylltu â ni
  • cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr.

Dyma enghreifftiau o’r wybodaeth y byddwn yn ei gasglu a’r modd y caiff ei defnyddio:

Rhestr ebost

Mae gennym restr ebost a ddefnyddir i ddosbarthu ein e-gylchlythyr. Os hoffech ymuno â’r rhestr, rydym angen eich cyfeiriad ebost.

Mae modd ymuno trwy gofrestru ar ein gwefan, trwy danysgrifio i’r cylchgrawn, trwy ddarparu eich manylion cyswllt mewn digwyddiadau, neu trwy anfon ebost yn mynegi eich dymuniad i ymuno â’r rhestr at [email protected].

Mae holl gyfranwyr y cylchgrawn hefyd yn derbyn yr e-gylchlythyr. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach amdanoch, er enghraifft eich enw llawn a’ch cyfeiriad cyswllt llawn fel bod modd sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth fwyaf perthnasol.

Mae modd i chi dynnu eich enw o’r rhestr bost unrhyw bryd trwy glicio ar y nodyn ‘dad-danysgrifio’ ar waelod yr e-gylchlythyr neu trwy ebostio [email protected] gyda ‘dad-danysgrifio’ ym mhwnc y neges.

Ebost, rhifau ffôn, a manylion cyswllt pellach

Byddwch yn cysylltu â ni o dro i dro trwy ebost, llythyrau drwy’r post neu alwad ffôn. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon dim ond at bwrpas ymateb i’ch cais neu’ch awgrym.

Creu cyfrif

Wrth brynu nwyddau neu wrth danysgrifio i’r cylchgrawn, rydym angen i chi ddarparu manylion cyswllt llawn ar gyfer prosesu taliadau ac er mwyn dosbarthu’r cylchgrawn i chi.

Dim ond er mwyn prosesu eich archeb y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon. Mae modd i chi ddileu’r wybodaeth a gasglwyd i brosesu eich tanysgrifiad trwy ebostio [email protected] gyda chais penodol.

Gwybodaeth y casglwn amdanoch

Defnyddiwn Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynghylch sut y mae ymwelwyr a thanysgrifwyr yn defnyddio’r wefan hon. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddadansoddi’r defnydd a wneir o’r wefan, er mwyn gwella ei heffeithiolrwydd.

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu’n ddi-enw ac nid oes modd defnyddio’r wybodaeth i’ch hadnabod yn bersonol.

Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol yn awtomatig:

  • gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad IP (Internet Protocol) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur i’r rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr a pha fersiwn ohono a ddefnyddir, gosodiadau rhanbarth amser, y math o ‘plug-ins’ a ddefnyddir gan y porwyr a pha fersiynau, systemau gweithredu a phlatfform;
  • gwybodaeth am eich ymweliad â’r safle, gan gynnwys o ba wefan y daethoch i wefan Barddas; tudalennau yr ydych wedi ymweld â hwy; pa mor gyflym mae tudalennau’n llwytho, gwallau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio ar dudalennau penodol; a’r dudalen olaf y byddwch yn ymweld â hi cyn gadael y safle.

Os byddwn yn gwneud defnydd o’r wybodaeth hon, bydd at bwrpas:

  • gwella ein gwefan ac i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithlon i chi ac i’ch cyfrifiadur neu’r teclyn a ddefnyddir gennych i ymweld â’n gwefan;
  • sicrhau bod ein gwefan wedi ei diogelu;
  • mesur neu ddeall pa mor effeithiol ydi’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu â chi.

Gwybodaeth am gardiau credyd

Dim ond gwybodaeth sylfaenol yr ydym yn ei chadw am gardiau credyd (y math o gerdyn a’r pedwar rhif olaf). Mae’r holl daliadau trwy’r wefan yn cael eu prosesu’n ddiogel gan wasanaeth Stripe neu trwy system daliadau PayPal, yn ôl eich dewis.

Preifatrwydd a gwarchod data

Mae Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod yn gwneud ein gorau i gydymffurfio â deddfwriaeth gwarchod data a gaiff ei gweithredu yn y DU ac Ewrop. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw ddata personol yr ydych yn ei roi i ni gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd.

Mae modd i chi gysylltu â ni os am weld, diwygio neu wneud cais i ddileu unrhyw wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni.

Gwefannau eraill

Bydd ein gwefan wedi ei chysylltu mewn mannau â gwefannau eraill. Os byddwch yn dilyn cyswllt i unrhyw wefan allanol, cofiwch bod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros y polisïau hynny.

Os gwelwch yn dda, gwiriwch y polisïau perthnasol cyn darparu unrhyw ddata personol i wefannau allanol.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

O dro i dro gall Barddas: Y Gymdeithas Gerdd dafod wneud newidiadau i’r nodyn preifatrwydd hwn. Byddai’n arfer da i wirio’r dudalen hon bob tro rydych yn darparu gwybodaeth bersonol i ni. Mi fydd y nodyn preifatrwydd diweddaraf bob amser yn ymddangos ar y dudalen hon.

Cysylltu

Gellir cysylltu â ni trwy’r cyfeiriad [email protected]

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Beirdd Barddas
  • Cysylltu
  • Preifatrwydd a Cwcis

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2023: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio.

Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio. Mae cwcis yn gwneud pethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n helpu i ddeall pa rannau o'r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Mae angen cwcis angenrheidiol er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch chi'n rhwystro pob cwci ar ein gwefan, efallai na fydd yn gweithio'n iawn.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cwcis trydydd parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, pa ddolenni sy'n cael eu clicio, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Gall y cwcis hyn hefyd gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel cyfri nifer o weithiau mae fideos YouTube sydd wedi eu mewnblannu yn cael eu gwylio.

Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!