Mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu bod dau o’u beirdd, Aneirin Karadog a Llion Jones wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn eleni.

Cyhoeddwyd bod O Annwn i Geltia (Aneirin Karadog) a Trydar Mewn Trawiadau (Llion Jones) – dwy gyfrol o ganu caeth – wedi dod i’r brig yng nghategori barddoniaeth cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013.
Casgliad cyntaf y talyrnwr a’r rapiwr yw O Annwn i Geltia, casgliad sy’n ein tywys ar daith bersonol bardd sy’n chwilio am ei hunaniaeth. Cyflwynir y cerddi amrywiol eu mydryddiaeth ar y cyd ag ugain o ddelweddau trawiadol gan yr arlunydd Huw Aaron.
Darllenwch adolygiad o’r gyfrol ar wefan Gwales.
Sylwadau wrth fynd heibio ar y byd a’i bethau yw hanfod trydar y Prifardd Llion Jones, ac mae’r gyfrol fach ddeniadol Trydar Mewn Trawiadau yn rhoi ar gof a chadw sylwadau sydd wedi crynhoi ers dros dair blynedd. Dyma’r casgliad cyntaf o drydar yn y Gymraeg, ac un o’r casgliadau cyntaf o drydargerddi mewn unrhyw iaith.