• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Newyddion > Karen a Barddas yn Dathlu’r Dwbl

Karen a Barddas yn Dathlu’r Dwbl

16 Gorffennaf, 2012

Mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu llwyddiant nodedig ar ôl i un o gyfrolau’r gymdeithas gipio dwy wobr yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yr wythnos diwethaf.

Nid yn unig yr enillodd Siarad trwy’i Het gan Karen Owen y wobr gyntaf yn y Categori Barddoniaeth Gymraeg ond hithau hefyd enillodd Gwobr Barn y Bobl a drefnir gan golwg360 ac sy’n gwahodd darllenwyr ‘cyffredin’ i fwrw eu pleidlais dros eu hoff gyfrol o blith y rhestr fer yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Mae’r gyfrol yn gyfuniad trawiadol o gerddi a ffotograffau a dynnwyd gan y bardd ei hun ac a ysbrydolwyd gan Het Goffa Iwan Llwyd a enillodd Karen yng Ngŵyl Maldwyn yn 2010. Rhan o amod y wobr oedd profi fod yr het wedi teithio i fannau diddorol cyn ei dychwelyd ymhen y flwyddyn.

“Dyma fuddugoliaeth arbennig i farddoniaeth. Rydym yn ymhyfrydu yn llwyddiant Karen ac yn ei llongyfarch yn fawr,” meddai Elena Gruffudd, Golygydd Cyhoeddiadau Barddas.

Ychwanegodd: “Mae’n amlwg fod y diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg mor fyw ag erioed. Mae’n rhywbeth sydd i’w weld a’i glywed yn y bwrlwm a’r brwdfrydedd ymhlith y beirdd  – nifer ohonyn nhw’n rhai ifanc – sy’n mwynhau perfformio eu gwaith yn gyhoeddus ac yn rhoi bywyd newydd i hen grefft.”

Cofnod nesaf: Llwyddiant i Lyfrau Barddas »

Prif Far Ochr

Sidebar newyddion

Y llyfr dan sylw

Siarad trwy’i Het

Siarad trwy'i het

7.95
Karen Owen
Ebrill 1, 2011


Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899