
Hogan o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle, ydi Karen Owen a dyma ei hail gyfrol o gerddi.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Nid yw Karen Owen yn un sy’n siarad trwy’i het. Mae’n ysgrifennu am y pethau sy’n ei chyffroi ac yn ei brifo. O gamerâu cyflymder ac ymgyrch losgi Meibion Glyndwr, i raglenni Radio Cymru. O’r frwydr fyd-eang am olew, i rasio llygod a chadw iaith yng nghefn gwlad. O golli ffrindiau a dod o hyd i gariad yn y llefydd mwyaf annisgwyl, i chwarae snwcer a gwneud triciau cardiau, a thrio deall Charles Darwin.