Bu Noson Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn a gynhaliwyd yng Nghaerdydd nos Iau, Gorffennaf 18, yn un i’w chofio i Gyhoeddiadau Barddas wrth iddynt gipio dwy wobr allweddol, sef Prif Wobr y Categori Barddoniaeth a Gwobr Barn y Bobl.

Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru ers mis Mai, a enillodd y categori barddoniaeth gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia tra penderfynodd y ‘Bobl’ mai cyfrol arloesol y Prifardd Llion Jones, Trydar Mewn Trawiadau, oedd eu ffefryn nhw mewn pleidlais a drefnwyd gan golwg360.com
Casgliad o gerddi yn olrhain taith bersonol bardd sy’n chwilio am hunaniaeth yw eiddo Aneirin tra bo cyfrol Llion yn crynhoi gwerth tair blynedd o sylwadau ar y byd a’i bethau drwy gyfrwng trydargerddi, un o’r casgliadau cyntaf o’i fath mewn unrhyw iaith.
Meddai Elena Gruffudd, Golygydd Cyhoeddiadau Barddas: “Rydym yn llongyfarch Aneirin a Llion yn gynnes iawn ac yn hynod falch o’u llwyddiant. Mae’r ddwy gyfrol yn sicr yn adlewyrchu’r bwrlwm a’r safon sydd ym maes barddoniaeth Gymraeg ar hyn o bryd.”
Drannoeth y gwobrwyo, roedd Aneirin Karadog yn dal i geisio dygymod â’i lwyddiant: “Mae cael y wobr am lyfr barddoniaeth gorau’r flwyddyn yn rhoi hwb aruthrol i mi o ran hyder er nad yw cweit wedi fy nharo fy mod i wedi ennill eto,” meddai.
Ychwanegodd: “Hoffwn longyfarch pawb arall ar eu camp ond yn enwedig Llion Jones ar ennill gwobr Barn y Bobl, fel y gwnaeth y bardd Karen Owen y llynedd. Mae hyn yn profi fod barddoniaeth a’r gynghanedd yn gallu bod yn bethau poblogaidd y gall pobl eu deall a’u mwynhau”.