Mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu llwyddiant nodedig ar ôl i un o gyfrolau’r gymdeithas gipio dwy wobr yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yr wythnos diwethaf.
Nid yn unig yr enillodd Siarad trwy’i Het gan Karen Owen y wobr gyntaf yn y Categori Barddoniaeth Gymraeg ond hithau hefyd enillodd Gwobr Barn y Bobl a drefnir gan golwg360 ac sy’n gwahodd darllenwyr ‘cyffredin’ i fwrw eu pleidlais dros eu hoff gyfrol o blith y rhestr fer yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Mae’r gyfrol yn gyfuniad trawiadol o gerddi a ffotograffau a dynnwyd gan y bardd ei hun ac a ysbrydolwyd gan Het Goffa Iwan Llwyd a enillodd Karen yng Ngŵyl Maldwyn yn 2010. Rhan o amod y wobr oedd profi fod yr het wedi teithio i fannau diddorol cyn ei dychwelyd ymhen y flwyddyn.
“Dyma fuddugoliaeth arbennig i farddoniaeth. Rydym yn ymhyfrydu yn llwyddiant Karen ac yn ei llongyfarch yn fawr,” meddai Elena Gruffudd, Golygydd Cyhoeddiadau Barddas.
Ychwanegodd: “Mae’n amlwg fod y diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg mor fyw ag erioed. Mae’n rhywbeth sydd i’w weld a’i glywed yn y bwrlwm a’r brwdfrydedd ymhlith y beirdd – nifer ohonyn nhw’n rhai ifanc – sy’n mwynhau perfformio eu gwaith yn gyhoeddus ac yn rhoi bywyd newydd i hen grefft.”