• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Newyddion > O Hel Llus i hel gwobrau

O Hel Llus i hel gwobrau

19 Mai, 2016

Mae Hel Llus yn y Glaw, cyfrol gyntaf Gruffudd Owen o gerddi wedi cyrraedd rhestr fer y categori barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.

Cyfrol yn llawn deuoliaethau yw Hel Llus yn y Glaw, cyfrol sy’n trafod agweddau ar hunaniaeth a pherthyn o safbwynt y bardd sy’n byw yn y brifddinas ond yn hannu o Ben Llŷn. Cawn gip ynddi hefyd ar Gruffudd Owen y talyrnwr a’r stompiwr, ac ar gerddi direidus sy’n llawn o droeon trwstan y beiciwr yn y ‘ddinas ddu’.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i gyfrol gan fardd ifanc yn nghyfres Cyhoeddiadau Barddas, ‘Tonfedd Heddiw’, ddod i’r amlwg yn y gystadleuaeth hon. Y llynedd, gosodwyd cyfrol gyntaf Llyr Gwyn Lewis, Storm ar Wyneb yr Haul ar y rhestr fer hefyd.

Mae Hel Llus yn y Glaw, fel yr awgryma’r teitl, yn dwyn ynghyd brofiadau gwerthfawr bywyd ac yn dal gafael ar y fagwraeth arbennig a gafodd y bardd ym Mhen Llyn.

Llongyfarchiadau calonnog i Gruffudd.

Cofnod blaenorol « Cerddi Alan Llwyd – yr ail gasgliad cyflawn: Datganiad i’r wasg
Cofnod nesaf: Alaw newydd Barddas Alaw Mai Edwards»

Prif Far Ochr

Sidebar newyddion

Y llyfr dan sylw

Hel Llus yn y Glaw

Hel Llus yn y Glaw - Gruffudd Owen

5.95
Gruffudd Owen
Tachwedd 22, 2015


Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899