Dyma'r drydedd gyfrol yn y gyfres Tonfedd Heddiw. Gruffudd Owen, y talyrnwr a’r stompiwr o fri sy’n cyflwyno clytwaith o gerddi amrywiol y tro hwn.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 5.95
Disgrifiad
‘Joban fain’ ydi casglu llus yn y glaw yn ôl y bardd, sy’n wreiddiol o Bwllheli, ond eto mae’n rhywbeth sy’n rhan ohono, ac yn rhywbeth y mae’n dal i’w wneud, er ei fod erbyn hyn yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Ac yntau’n aelod o dîm ymryson Ll?n ac Eifionydd a thîm talwrn y Ffoaduriaid mae’n cyfaddef fod elfen gref o ddeuoliaeth yn ei waith. Gwelir yn y gyfrol gerddi caeth a rhydd, dwys a doniol, ac mae llais y bardd y brifddinas, yn ogystal â’r llanc o Ly^n i’w glywed yma.
Disgrifia’r gyfrol hon yn syml fel ‘cyfrol sy’n trafod agweddau ar hunaniaeth, perthyn, damweiniau beic a hel llus.’ Hon yw ei gyfrol gyntaf.