Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Newyddion > Cerddi Alan Llwyd – yr ail gasgliad cyflawn: Datganiad i’r wasg

Cerddi Alan Llwyd – yr ail gasgliad cyflawn: Datganiad i’r wasg

Tachwedd 14, 2015

Ar ei ffordd i’r siopau yr wythnos hon mae cyfrol sy’n ffrwyth chwarter canrif o farddoni – cyfrol sydd, yn ôl y Prifardd Alan Llwyd, yn cynrychioli carreg filltir bwysig iawn yn ei yrfa.

Braint o’r mwyaf, felly, i Barddas yw cyhoeddi Cerddi Alan Llwyd: yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015, cyfrol sy’n cynnwys y cyfan o’r cerddi o’r pedair cyfrol a gyhoeddwyd ers i’r Casgliad Cyflawn Cyntaf ymddangos yn 1990 yn ogystal ag adran sylweddol iawn o gerddi newydd sbon – nifer fawr ohonynt heb weld golau dydd o’r blaen. Yn eu plith ceir cerddi i’w wyres, cywyddau marwnad athrylithgar i gyfeillion ac englynion dirdynnol, megis yr un i’r bachgen bach o Syria a olchwyd i’r lan ar arfordir Twrci.

Disgrifia Alan Llwyd ei gynnyrch diweddaraf fel ‘cerddi sy’n mynegi pryder am ddyfodol – ac am gyflwr – y Gymraeg, yn naturiol, a cherddi sy’n mynegi pryder ynghylch cyflwr y byd. Ond yn y pen draw, y cyflwr dynol, y profiad o fyw bywyd ar y ddaear hon yn ei wychder a’i wae, yw prif ddeunydd y cerddi hyn. Ystâd bardd astudio byd ac astudio bywyd.’

Ac yntau wedi ei benodi’n Athro yn Academi Hywel Teifi ers 2013, mae’n cyfaddef mai gweithgarwch ysbeidiol yw barddoni bellach yng nghanol myrdd a mwy o brosiectau llenyddol eraill. Ond y mae’r broses o farddoni yn awr, fel erioed, meddai, yn parhau i fod yn gyfuniad o dri pheth hanfodol, sef myfyrdod, ysbrydoliaeth a chrefft.

‘Gall un gerdd gymryd misoedd i’w llunio,’ eglura. ‘Er enghraifft, cymerodd un o gerddi mwyaf diweddar y gyfrol hon, fy nghywydd er cof am Gerallt Lloyd Owen, naw mis i mi ei llunio: chwe mis o fyfyrdod, heb un llinell yn dod, a thri mis o gyfansoddi. Ar ôl cyfnod y myfyrdod y daw’r ysbrydoliaeth sy’n angenrheidiol i droi crefft anodd y gynghanedd yn grefft hawdd, ymddangosiadol rwydd yr olwg.’

Yn ôl yr Athro Tudur Hallam yn ei gyflwyniad i’r gyfrol, yn y gweithiau diweddaraf hyn y gwelir y Prifardd yn canu rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol: ‘Yn y cywydd marwnad i Gerallt Lloyd Owen, fel yn y farwnad i Gwilym Herber ac i James, cyfaill ei fab, mae yma ganu gwirioneddol rymus sy’n llwyddo i gyfuno’r personol a’r dynol-oesol ynghyd. Wrth i feidroldeb eraill wasgu ar gorff, meddwl ac enaid y bardd, dyma ef ei hun, nid yn annhebyg i Guto’r Glyn yn ei henaint, yn canu rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol erioed.’

Manylion cyhoeddi: Cerddi Alan Llwyd: Yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015, Cyhoeddiadau Barddas, Pris: £19.95 (clawr caled)

Dyddiad Cyhoeddi: 18 Tachwedd

Nodiadau i Olygyddion

Penodwyd y Prifardd Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn 2013. Mae’r ysgolhaig yn adnabyddus am ei gyfraniad sylweddol i faes beirniadaeth lenyddol, am ei gyhoeddiadau niferus ac am fod yn un o’n beirdd Cymraeg mwyaf cynhyrchiol.
Noddir y gyfrol hon gan Brifysgol Abertawe.

Caiff y gyfrol ei lansio nos Fercher 18 Tachwedd yng Nghapel Soar, Pontardawe, fel rhan o noson Y Tri Meuryn, (Gŵyl Dyniaethau Prifysgol Abertawe, 2015) pan fydd y bardd yn rhoi darlleniadau o’i gyfrol.

Cofnod blaenorol « Hetty Bechler, aelod hynaf Barddas yn 100 oed!
Cofnod nesaf: O Hel Llus i hel gwobrau Gruffudd Owen»

Primary Sidebar

Sidebar newyddion

Y llyfr dan sylw

Cerddi Alan Llwyd – yr ail gasgliad cyflawn – 1990-2015

Cerddi Alan Llwyd: Yr ail gasgliad cyflawn

19.95
Alan Llwyd
Tachwedd 14, 2015


Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Beirdd Barddas
  • Cysylltu
  • Preifatrwydd a Cwcis

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2019: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899