Ddydd Iau’r Brifwyl eleni, bydd Hetty Bechler o Lundain (Hetty Morgan o Abergwaun gynt) yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed. Mae Dafydd Islwyn wedi cadarnhau mai Hetty ydi aelod hynaf Barddas.
“Sa’i’n credu ’mod i’n gant oed,” meddai. “Mae’n hala fi i werthin! Ond wi’n darllen Barddas o glawr i glawr, a wi’n dysgu rhywbeth bob tro. Fe allwn i farw’n hapus pe bawn yn gallu gwneud englyn cywir! Fe wnes i linell pwy noson pan own i wedi blino’n lân: ‘af yn araf i orwedd!’”. Mi fyddai hunangofiant Hetty yn gyfrol werth ei darllen! Mae rhagor o’i hanes difyr yn Barddas yr Eisteddfod (tt.32-3).
Hetty ar Sgwâr Trafalgar ym mis Mai 1961 Hetty Bechler yn 1938
Bu am gyfnod yn ystod yr ail Ryfel Byd yn dysgu yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yng Ngwlad y Mwynder, ac yno yn y Sun Temperance Hotel y cyfarfu â’r dyn fyddai’n dod yn ?r iddi yn y diwedd! Dyfynnwyd yn yr ysgrif yn Barddas ddetholiad bach o’r penillion wnaeth ei ffrindiau iddi pan ymadawodd â Llanrhaeadr-ym-Mochnant a bwthyn bach Pandy’r Coed ym 1944, a dychwelyd am gwpwl o flynyddoedd i Abertawe cyn mynd i fyw i Lundain (rhowd yr argraff, braidd, ei bod wedi ei hel hi yn syth am Loegr). Dyma chydig bach mwy:
Wel, beth a’th ddenodd di, fy Heti fwyn
I ado swyn y baradwysaidd fro,
A hedd y Berwyn, lle mae’r awel iach
A mynd i wlad y mwg a’r pyllau glo?
Ti fuost wrol iawn yn trefnu’r t?
A gwneud hen Bandy’r Coed yn Eden lân,
A chlywem gyda’r hwyr trwy dwll y clo
Mewn cytgord pur, dy lawen, beraidd gân.
Gobeithiodd rhai dy weld yn wraig y Cwm
Ac wrthi’n godro’r deuddeg yn eu tro;
Ond tannau’r delyn bêr a driniaist ti –
Mwy swynol hwy na bref y fuwch a’r llo!
Os mynd, wel dos, a gwyn fo’th fyd
Yng nghanol gwlad y düwch mwya’ ’rioed;
Fe ddichon y daw ffawd â thi yn ôl
Yng nghwmni Ifan John i Bandy’r Coed.
Ei ffrind, Marged, neu Maggie Lizzie, o’r pentre wnaeth y rhain. Cymeriad mewn darn adrodd poblogaidd ar y pryd oedd ‘Ifan John’, meddai Hetty, ond dyn o gig a gwaed (chydig yn rhy hen i Hetty!) oedd mab y Cwm druan! Mewn penillion eraill i Hetty mae John Ellis Williams yn sôn fel y “bydd ambell un, o’i chofio gynt, / Yn colli’r dagrau trwm, / Yn rhywle tua’r Cwm!” Ac fel hyn y mae’r gân yn cloi:
Ein dymuniadau gorau
A roddwn iddi’n sir,
Boed iddi haul a’i wenau
I fyw tra rhed y d?r
A hefyd glamp o ?r!
Wel, mi gafodd hwnnw, sef Ben Bechler, “gŵr a thad ardderchog am 43 o flynyddoedd!” Priodwyd y ddau yn Llundain ym 1950, a ganwyd eu merch, Rosemary, ym 1951. Tybed oes rhywun yn gwybod beth fu hanes mab y Cwm wedyn, a Marged (Maggie Lizzie) o Lanrhaeadr-y-Mochnant? A sgwn i pwy sy’n byw heddiw ym mwthyn Pandy’r Coed?
Mewn pennill arall, mae John Ellis Williams yn sôn mor gampus oedd Hetty am adrodd. “Teimlasom ni ‘Bwllderi’ / Yn codi gwallt ein pen, / A rhaid oedd dweud ‘Amen’!” Roedd ‘Pwllderi’ gan ei hoff fardd Dewi Emrys ar ei chof ers pan ddarllennodd hi gyntaf yn ifanc, a hynny achos ei bod yn ei thafodiaith hi. Ym 1938 (ar ôl cael prawf llais gan y BBC) bu’n adrodd ‘Pwllderi’ ar y radio. Methiant fu’r ymgais i gael hyd i’r tâp, ond yn ei chanfed flwyddyn, mae Hetty wedi ei recordio hi eto, ac os edrychwch yn y blwch ‘Seiniau Barddas’ ar ymyl dde y dudalen gallwch ei chlywed yn ei hadrodd nawr ,a hynny “fel petai hi heb adael Sir Benfro erioed”!
Ar ran Barddas, dyma ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Hetty, ein haelod hynaf.