Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Newyddion > Neges gan y Cadeirydd yn ystod yr argyfwng Covid-19

Neges gan y Cadeirydd yn ystod yr argyfwng Covid-19

Ebrill 13, 2020

Aneirin Karadog - Cadeirydd Barddas
Aneirin Karadog – Cadeirydd Barddas

Fel tanysgrifwyr o gylchgrawn Barddas ac aelodau o’r Gymdeithas Gerdd Dafod hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud gymaint ag y gallwn i gynnal elfen o normalrwydd drwy’r argyfwng Covid-19, gan wybod fod y cylchgrawn, ein cyhoeddiadau a’n gweithgarwch barddol yn cynnig diddanwch, cysur a chynhaliaeth ddiwylliannol i nifer ohonoch.

Cylchgrawn Barddas

Oherwydd y sefyllfa, does dim modd inni argraffu copi papur o Barddas y tro hwn. Ond dymunwn barhau i gyhoeddi’r cylchgrawn er eich budd. Ar fodel Barddas Bach y Dolig, sef rhifyn digidol a ddanfonir ar e-bost i’n haelodau bob Nadolig ac a gyhoeddir ar ein gwefan, fe fydd copi digidol o gylchgrawn Barddas, rhifyn y Gwanwyn, yn barod erbyn 20 Ebrill ac yn cael ei e-bostio atoch.

Bydd hefyd fersiwn PDF (sef fersiwn digidol, di-bapur) yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan ac felly os nad oes gennych gyfrif e-bost, ond bod modd i chi gael mynediad i sgrin gyfrifiadurol, tabled neu ffôn clyfar, gellir darllen y rhifyn diweddaraf ar y wefan.

Os bydd y post yn cau, byddwn yn canfod ffyrdd eraill, e-bost neu ffôn, i’ch diweddaru chi. Cawn weld beth fydd hanes rhifynnau’r haf a’r hydref. Ar fater y tanysgrifiad rydym yn edrych ar ddiwallu’r golled o beidio derbyn copi papur y tro hwn, naill ai drwy gynhyrchu copi papur ychwanegol yn ddiweddarach yn y flwyddyn neu drwy archwilio trywyddau posib eraill. Ond fe’ch sicrhawn na fyddwch ar eich colled yn sgil y newid sydyn i’n trefn arferol o weithio. Bydd ein cydlynydd, Ffion, yn fwy na bodlon trafod y sefyllfa gyda chi dros y ffôn. Mae ei manylion cyswllt mewn rhifynau blaenorol o’r cylchgrawn a hefyd ar ein gwefan.

Cysylltu

Os nad ydych wedi bod yn derbyn Barddas Bach y Dolig, y ddau Nadolig diwethaf, golyga nad yw eich e-bost gennym. A gaf i ofyn yn garedig i chi felly, gysylltu â Ffion Medi Lewis-Hughes, cydlynydd Barddas, er mwyn darparu eich e-bost iddi. Gall hyn ein galluogi i gyrraedd mwy ohonoch yn y dyfodol gydag unrhyw newyddion neu ddiweddariad, ac wrth gwrs er mwyn derbyn Barddas Bach y Dolig ar ddiwedd y flwyddyn hon. At y perwyl hwn bydd Ffion yn falch o glywed gennych.

Ffion Medi Lewis-Hughes

Ffion Medi Lewis-Hughes

Cydlynydd Barddas

[email protected]

Noddfa
Pentre Isaf
Tregaron
Ceredigion
SY25 6ND

    Cyhoeddiadau Barddas

    Mae cyfrolau Cyhoeddiadau Barddas hefyd yn wynebu heriau na fu modd eu rhagweld. Er enghraifft, mae pentwr o gopïau newydd sbon danlli o Llyfr Gwyrdd Ystwyth gan Eurig Salisbury yn eistedd yn warws yr argraffwyr y funud hon gan ei bod hi’n amhosib eu dosbarthu i’r siopau ar hyn o bryd.

    Cyhoeddir dwy gyfrol arall yn fuan iawn hefyd, sef Dal i Fod gan Elin ap Hywel a Desg Lydan gan Geraint Roberts, ac maent yn barod i’w rhannu â’r byd pan fydd yr argraffwyr a’r system ddosbarthu yn ailgychwyn. Gellir, serch hynny, gysylltu a’ch siop lyfrau leol er mwyn rhagarchebu’r cyfrolau hyn fel eich bod yn eu derbyn yn syth pan fydd posib eu dosbarthu.

    Mae gennym hefyd sawl cyfrol ddifyr a chyffrous ar y gweill a byddwn yn parhau i’w cyhoeddi yn ystod misoedd yr haf, os oes modd gwneud hynny.

    Ar ran holl swyddogion, staff a phwyllgor gwaith Barddas, hoffwn ddymuno’r gorau i chi, gan ddanfon ein cofion cynhesaf atoch dros y cyfnod dyrys hwn.

    Aneirin Karadog,
    Cadeirydd Barddas (Y Gymdeithas Gerdd Dafod).

    Cofnod blaenorol «Beirdd ifanc yng Ngŵyl Gerallt 2018 Cydraddoldeb mewn cerdd dafod
    Cofnod nesaf: Swydd Cydlynydd Barddas Pabell Barddas»

    Prif Far Ochr

    Sidebar newyddion

    Rhifyn dan sylw

    345: Rhifyn Gwanwyn 2020

    Barddas 350 - Gwanwyn 2020/01 6 Gwanwyn 202


    Newyddion yn ôl math

    • Swyddi
    • Newyddion y Gymdeithas
    • Newyddion y Cylchgrawn
    • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
    • Datganiad i'r wasg
    • Cystadlaethau

    Footer

    Dolenni perthnasol

    • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
    • Beirdd Barddas
    • Cysylltu
    • Preifatrwydd a Cwcis

    Cyhoeddiadau

    • Barddoniaeth
    • Beirniadaeth lenyddol
    • Blodeugerddi
    • Drama
    • Hanes Beirdd a Llenorion
    • Nofelau
    • Y Gynghanedd

    Tlysau Barddas

    • Tlws D. Gwyn Evans
    • Tlws y Gerdd Rydd
    • Tlws Coffa John Glyn Jones
    • Tlws Pat Neill
    • Tlws Rolant o Fôn
    • Tlws Roy Stephens
    • Tlws T. Arfon Williams
    • Tlws W.D. Williams
    • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

    Site Footer

    • Facebook
    • Instagram
    • Twitter
    • YouTube

    Hawlfraint © 2023: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899

    Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio.

    Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
    Trosolwg

    Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio. Mae cwcis yn gwneud pethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n helpu i ddeall pa rannau o'r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

    Cwcis cwbl angenrheidiol

    Mae angen cwcis angenrheidiol er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch chi'n rhwystro pob cwci ar ein gwefan, efallai na fydd yn gweithio'n iawn.

    If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

    Cwcis trydydd parti

    Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, pa ddolenni sy'n cael eu clicio, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

    Gall y cwcis hyn hefyd gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel cyfri nifer o weithiau mae fideos YouTube sydd wedi eu mewnblannu yn cael eu gwylio.

    Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!