
Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi bod Cyhoeddiadau Barddas yn ymrwymo i gyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc o fis Medi 2020 ymlaen dan yr enw Beirdd Bach.
Y bwriad yw cyhoeddi casgliadau o gerddi hen a newydd, cyfrolau addysgiadol a fydd o gymorth i ddehongli barddoniaeth, llyfrau stori a llun am feirdd a llenorion a chyfrolau o gerddi newydd sbon ar wahanol themâu i blant o bob oed.
Yn ôl Alaw Mai Edwards, Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas:
‘Mae ’na ddarpariaeth ragorol eisoes i blant a phobl ifanc gan gyhoeddwyr o Gymru a bydd cyfrolau Beirdd Bach yn ychwanegu at y ddarpariaeth hon gan gyhoeddi llyfrau Cymraeg hollol wreiddiol ac unigryw – nid yn unig i gynnal a datblygu’r diddordeb mewn barddoniaeth ymysg plant a phobl ifanc ond i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn cael ei thrwytho mewn odlau, mydryddiaeth a sŵn y gynghanedd – a hynny o oedran ifanc.’
Alaw Mai Edwards
Bu’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru o beidio â chynnwys y gynghanedd ar y cwricwlwm addysg yn siom aruthrol yn ôl Cadeirydd Barddas, y Prifardd Aneirin Karadog:
‘Fel cyn-Fardd Plant Cymru, gallaf dystio fod elfennau fel odl, cyflythrennu, clec yr acen a sŵn geiriau yn bethau sy’n hudo plant a phobl ifanc, ac mae deall a mwynhau cerdd dafod o fewn eu gallu. Mae’n fy nhristáu fod y rhan fwyaf o ieuenctid Cymru yn gadael yr ysgol heb ddod ar draws y gynghanedd – un o ryfeddodau’r byd.’
Aneirin Karadog
Bydd y gynghanedd, felly, yn cael blaenoriaeth. Ond nid cyfrolau barddoniaeth yn unig fydd cynnyrch Beirdd Bach. Bydd y beirdd eu hunain hefyd yn cael lle blaenllaw a bydd cyfle i dynnu sylw at y lleisiau amrywiol sydd gennym yma yng Nghymru, ac sydd erioed wedi bod yn rhan o’n traddodiad barddol, o Dafydd ap Gwilym, Guto’r Glyn a Gwerful Mechain i feirdd cyfoes o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Yr awdur cyntaf i gyhoeddi cyfrol i blant o dan adain gyhoeddi Beirdd Bach yw’r Prifardd Mererid Hopwood. Mae Mererid ar Bwyllgor Gwaith Barddas ac fel awdures a bardd, mae hi’n ymwybodol iawn o anghenion y byd cyhoeddi i blant – mae hi hefyd yn Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Hi yw golygydd y gyfrol Fy Llyfr Englynion a gyhoeddir ym mis Medi: casgliad hyfryd o 22 englyn hen a newydd gyda geirfa, nodiadau a lluniau. Mae’r gyfrol wedi ei hanelu at blant cynradd (8 i 11 oed) ond hefyd at rieni ac athrawon sy’n debygol o fod yn chwilio am farddoniaeth gofiadwy i’w rhannu gyda’u plant.
Ers sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dafod, mae hybu barddoniaeth a chyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib wedi bod yn rhan greiddiol o genhadaeth y Gymdeithas a Chyhoeddiadau Barddas. Mae camu i faes cyhoeddi llyfrau plant yn gam hollol naturiol i sicrhau llwyddiant hynny ac i ymrwymo fwyfwy i gadw’r traddodiad yn fyw … ac i ddatblygu ein ‘beirdd bach uwch beirdd y byd!’