Dyma ymateb Pwyllgor Gwaith Barddas i lythyr Iestyn Tyne am ddiffyg cynrychiolaeth menywod yng Nghylchgrawn Barddas.
Yn gyntaf, hoffem ddiolch i Iestyn Tyne am gytuno i gyhoeddi’r llythyr a ddanfonodd at Bwyllgor Gwaith Barddas yn Rhifyn y Brifwyl, 2019, o gylchgrawn Barddas.
Gyda’r llythyr, fe geir ymateb gan Olygydd y cylchgrawn, Y Prifardd Twm Morys, lle cydnabyddir y llythyr a bod, yn wir, le i wella, yn hyn o beth. Noda Twm hefyd taw’r Pwyllgor Gwaith sy’n gosod gweledigaeth Barddas fel y Gymdeithas Gerdd Dafod ac yn gweithredu ar hynny wedyn.
Pwyllgor Gwaith Barddas
Bnawn Sadwrn y 6ed o Orffennaf, felly, fe wahoddwyd Iestyn Tyne i’r cyfarfod chwarterol o Bwyllgor Gwaith Barddas, fel aelod o’r Gymdeithas Gerdd Dafod, i fod yn rhan o drafodaeth yn sgil ei lythyr.
Bu’n bleser croesawu Iestyn atom ac rydym yn ddiolchgar iddo am wneud yr ymdrech i ddod i drafod y mater pwysig dan sylw wyneb yn wyneb.
Trafodaethau’r pwyllgor
Fel Cadeirydd, roedd yn bwysig i mi ein bod ni’n gwrando ac yn rhoi cyfle i Iestyn ymhelaethu ar ei bwyntiau gan hefyd roi cyfle i aelodau’r Pwyllgor Gwaith, yn fenywod a dynion, fynegi barn.
Nodwyd gan Mererid Hopwood sy’n aelod o’r Pwyllgor, bod angen mynd i’r afael â’r prinder menywod sydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn flynyddol, ac y gellid arbrofi gyda chynnal gweithdai neu wersi cynganeddu i fenywod yn benodol i geisio codi’r niferoedd sy’n ymarfer y grefft.
Ar fater yr ymryson a’r talwrn, nododd Mari George, sydd hefyd ar y Pwyllgor, ei bod wedi profi enghreifftiau o bobl yn synnu bod menyw yn cymryd rhan, ac mae hyn eto’n awgrymu bod angen normaleiddio’r sefyllfa.
Nid oes lle i’r math yna o driniaeth i ferched ar unrhyw lwyfan ac mae angen gweithio i newid hynny ar unwaith a sicrhau fod yna barch i bob bardd, boed yn ddynion neu fenywod.
Roedd y Pwyllgor yn gyfle hefyd i nodi fod Barddas eisoes yn gwneud ymdrechion i roi cynrychiolaeth deg i fenywod yn ein gweithgareddau, ond bod, yn amlwg, le i wella.
Bardd y Mis BBC Cymru
Mae Barddas bellach, mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru, yn enwebu a darparu manylion beirdd i fod yn Fardd y Mis gan allu gwneud defnydd o’n harbenigedd a’n cysylltiadau yn y maes barddoni Cymraeg i gyfrannu at gynllun arloesol a phwysig Bardd y Mis, Radio Cymru.
Ers i Barddas ymgymryd â’r dyletswyddau hynny ym Mis Awst 2018, mae 6 bardd benywaidd a 5 bardd gwrywaidd wedi gwneud y gwaith. Mae’n amlwg felly nad oes prinder beirdd benywaidd.
Ymryson Barddas
Mae Ymryson Barddas yn un arall o’n prif weithgareddau bob Eisteddfod ac mae ymdrechion ar waith i gynyddu presenoldeb beirdd caeth benywaidd yn yr ornest honno.
Rydym hefyd bellach yn sicrhau fod beirdd benywaidd a beirdd gwrywaidd yn ymgymryd â gwaith beirniadu Englyn a Limrig y dydd o flwyddyn i flwyddyn yn y Babell Lên, a beirniadu Tlysau Barddas.
Gall y datblygiadau hyn deimlo fel camau bychain, ond fesul cam mae cynnydd yn digwydd. Cytunwyd yn y drafodaeth fod angen gweithredu yn bwrpasol yn y maes yma er mwyn cymryd camau mwy breision yn ein blaenau.
Swyddogion cyflogedig
Mae gennym hefyd bellach aelodau disglair o staff sy’n fenywod, sef Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas, Alaw Mai Edwards, a’n Cydlynydd, Ffion Medi Lewis-Hughes. Fe gynigiwyd iddyn nhw’r swyddi nid oherwydd y ffaith eu bod yn fenywod, ond am mai y nhw oedd y goreuon mewn proses gyfweld gystadleuol.
Mae’n werth nodi hefyd, cyn y penodwyd Alaw a Ffion, fod Elena Gruffudd yn Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas ac Iola Wyn yn Gydlynydd.
Camau nesaf
Mi fydd yna gamau pendant o ran cylchgrawn Barddas yn cael eu cymryd o rifyn yr Hydref ymlaen, sef
- colofnydd rheolaidd benywaidd newydd am gael ei datgelu maes o law
- cyfraniadau newydd rheolaidd gan Alaw Mai Edwards, a fydd yn cynnig cyfres o ysgrifau ar le, neu ddiffyg lle, beirdd benywaidd yn ein traddodiad barddol dros y canrifoedd.
Mae Alaw wedi ymchwilio yn helaeth i’r maes drwy ei gwaith blaenorol yng Nghanolfan Uwchefrydau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth ac y mae’n edrych ymlaen at gael cyfrannu i’r Cylchgrawn.
Cytunodd pawb a oedd yn bresennol bnawn Sadwrn, o aelodau’r Pwyllgor Gwaith, y staff, Iestyn a Golygydd y Cylchgrawn, fod y drafodaeth wedi bod yn fuddiol ac yn adeiladol ac edrychwn ymlaen i gymryd camau cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir dros yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd nesaf.
Fforwm ar faes yr Eisteddfod
Mi fyddwn yn trefnu fforwm drafod (manylion amser a lleoliad i’w cadarnhau) yn ystod wythnos yr Eisteddfod ar y mater hwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.
Estynnwn groeso cynnes i bawb, yn fenywod ac yn ddynion, i ddod i gyfrannu i’r drafodaeth gan obeithio y bydd yn adeiladol ac yn esgor ar syniadau cyffrous am sut i nid yn unig, adlewyrchu’r cyfoeth o leisiau benywaidd sydd eisoes yn barddoni yn Gymraeg, ond sut hefyd i ddenu mwy o fenywod a merched i farddoni a chynganeddu.
Ymlaen!
Y Prifardd Aneirin Karadog,
Cadeirydd Barddas, Y Gymdeithas Gerdd Dafod.
11/07/2019