Mae’r gyfrol yn cyflwyno cyfoeth amrywiol o gerddi ac erthyglau, adroddiadau a lluniau, cart?ns a theryngedau, hysbysebion a llythyrau tanllyd - wedi eu dethol o’r 300 rhifyn o’r cylchgrawn a gyhoeddwyd hyd yma.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Newydd ei chyhoeddi mae’r gyfrol Deugain Barddas dan olygyddiaeth Gruffudd Antur a Guto Dafydd i ddathlu sefydlu’r cylchgrawn fu’n difyrru, cynhyrfu ac ysbrydoli beirdd Cymru a’u caredigion ers 1976.
Daeth ‘Eisteddfod y Llwch’ yn Aberteifi yn haf poeth 1976 ag ambell storm i’w chanlyn – ond yn yr Eisteddfod hon hefyd y gwelwyd sefydlu dwy gymdeithas oedd â’r nod o ddod â charedigion llenyddiaeth Gymraeg yn nes at ei gilydd; Cymdeithas Bob Owen oedd y naill a Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod oedd y llall.
Roedd Alan Llwyd, y prifardd ifanc anfoddog a gododd i ganiad y corn gwlad yn ystod seremoni’r Cadeirio yn ganolog i’r fenter o sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dafod, ac ynghyd â Gerallt Lloyd-Owen, daeth yn gyd-olygydd ar gylchgrawn y Gymdeithas, Barddas ym mis Hydref 1976.
Yn ôl Guto Dafydd a Gruffudd Antur, mae’r gyfrol Deugain Barddas yn dathlu llawer mwy na chyfraniad y cylchgrawn: “Mae’n ddathliad o’r gymdeithas a’r gwerthoedd a’i gwnaeth yn bosib. Yn nadeni barddonol yr 1970au ffurfiwyd cenhedlaeth a chanddi’r awch i greu, dehongli a dyrchafu barddoniaeth a’r diwylliant Cymraeg. Ceir yn Barddas bortread safadwy o’r ymdrech hon, ac o ymdrechion ton ar ôl ton o feirdd i drin, trafod a hyrwyddo barddoniaeth”.