Cyfres o hanesion arswyd wrth i'r awdur rannu ei brofiadau o gysylltu gyda byd yr ysbrydion.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Adolygiad
Hyd yn gymharol ddiweddar, amheuwr oeddwn i parthed bodolaeth ysbrydion. Teimlwn fel y teimlai T. H. Parry-Williams am fodolaeth Tylwyth Teg. Medrwn haeru’n hyderus, ‘Dw i ddim yn credu mewn ysbrydion’.
Yna, a minnau ar wyliau ar un o ynysoedd bach Gwlad Groeg digwyddodd rhywbeth anesboniadwy. A bellach gallaf ychwanegu, ‘Ond maen nhw’n bod’.
Yn wahanol i Elwyn Edwards dydw i ddim yn ysbrydegydd nac yn gyfryngwr. Yn y gyfrol hynod o afaelgar hon cawn wybod am rai o’i niferus brofiadau ysbrydol. I’r rhelyw ohonom ni fyddai’r profiadau hyn yn gwneud unrhyw synnwyr. Ond o ddarllen tystiolaethau Elwyn mae gofyn i hyd yn oed y sinic mwyaf yn ein plith ailfeddwl.
Gallaf, er enghraifft, dderbyn yn ddigwestiwn fod gennym ni, pan yn fabanod, alluoedd sy’n araf bylu wrth i ni heneiddio. Ac un o’r greddfau naturiol hynny, medd Elwyn, yw’r arferiad sydd gan blentyn bach o greu ffrindiau sy’n anweledig i bawb ond i’r plentyn ei hun. Ond o heneiddio, prin yw’r rheiny sy’n parhau i fod yn berchen ar y gynneddf hon, meddai.
Mae’r gyfrol yn gyforiog o hanesion am ei wahanol brofiadau yn y byd ysbrydol, nifer ohonynt yng nghwmni eneidiau hoff cytûn. I mi, y mwyaf diddorol yw’r ysbrydion hynny y medrir rhoi iddynt enwau. Ac un profiad o’r fath sy’n sefyll allan yw cysylltiad Elwyn â Jane Williams. Hi sy’n ganolog i’r hen gân enwog honno, ‘Yr Eneth Gadd ei Gwrthod’. Ychwanegwch yr emynyddes Ann Griffiths a’r Cyrnol John Jones, Maesygarnedd, a ddienyddiwyd yn 1660.
Caiff lleoliadau arbennig sylw hefyd, o swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon i lannau Llyn Celyn. Ychwanegwch brofiadau’n ymwneud â rhagfynegi a dyna i chi destament o achosion a allent fod yn destun cyfres deledu gyfareddol.
Mae’r ysbrydion a’r achosion sydd ynghlwm wrthynt yn rhychwantu’r canrifoedd. Cawn yr awdur yn ymweld â lleoliad Siambr Hywel Dda o’r 9fed ganrif ac yn dod wyneb yn wyneb ag ysbryd merch ifanc oedd yn wynebu’r crocbren. Yna, yn ein cyfnod ni cawn ddigwyddiad rhyfedd a brofodd Elwyn a’i briod wrth wylio telediad seremoni’r Coroni ym Mhrifwyl Caerdydd yn 2018.
Un rheswm diddorol a gynigir gan Elwyn dros ymddangosiad ysbryd yw awydd yr ymwelydd i’n hysbysu ei fod yno, a’i fod am ddweud pam. Rhyw brociad o’r byd ysbrydol gan enaid aflonydd. A dyma gofio dywediad gan gymeriad yn The Satanic Verses slawer dydd. ‘Now I know what a ghost is. Unfinished business, that’s what.’
Ydw, o Syr Tomos i Salman Rushdie, rwy’ mewn cwmni da.
Lyn Ebenezer
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.