• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Llyfrau > Cymru mewn 50 Cerdd

Cymru mewn 50 Cerdd

Clawr Cymru mewn 50 Cerdd

Casgliad o 50 cerdd i 50 o leoedd arbennig yng Nghymru - o Fôn i Fynwy - gyda chyflwyniad i bob cerdd gan olygydd y gyfrol, Alan Llwyd, a lluniau lliw hyfryd gan y ffotograffydd, Iestyn Hughes.

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Pris: 11.95

Prynu ar wefan Gwales



Awdur

Alan Llwyd
Alan Llwyd

Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 19, 2021

Rhif ISBN: 9781911584537

Categori: Barddoniaeth, Blodeugerddi

Disgrifiad

Adolygiad

Yn y rhagair i’r gyfrol hon mae’r awdur yn esbonio bod i bob lle dair elfen; yr elfen ddaearyddol, yr elfen hanesyddol a’r elfen lenyddol ac mae’n cloi’r rhagair trwy ein hannog i fynd ar daith trwy Gymru fydd yn cwmpasu’r tair elfen. Yn sicr, mae’n llwyddo yn hynny o beth.

Ydi, mae hon yn gyfrol bwrdd coffi ddelfrydol, yn llawn lluniau trawiadol a cherddi coeth. Ond peidiwch â meiddio ei thrin fel cyfrol bwrdd coffi arferol – er y gallech droi’r tudalennau’n hamddenol ac edrych ar y lluniau. Er mwyn gwerthfawrogi’r llyfr yn llawn mae’n rhaid i chi ddarllen. Darllen y cerddi eu hunain, wrth gwrs, ond hefyd darllen y darnau rhyddiaith sy’n cyd-fynd â nhw. Mae’n gyforiog o wybodaeth am y lleoedd dan sylw ac am y beirdd y mae eu cerddi ymhlith yr hanner cant, a beirdd eraill sydd wedi creu cerddi am yr un mannau. Ond yn sicr mae’n llyfr y gallwch ddarllen pennod ynddo ac yna ei adael. A dweud y gwir, byddai hynny’n syniad da iawn i roi amser i werthfawrogi’r darlun geiriol a llythrennol o bob lle unigol.

Cewch nifer o gerddi sydd, gobeithio, yn gyfarwydd iawn ichi, o ‘Llyn y Gadair’ a ‘Cwm Pennant’ i ‘Aberdaron’, y cerddi y byddech yn disgwyl eu gweld mewn cyfrol fel hon. Ond mae’n wych gweld cerddi llai cyfarwydd, cerddi cymharol newydd rai ohonynt, sy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’r hen glasuron.

Mae’r gyfrol yn gweithio fel llyfr lluniau hefyd, ac i’r rhai ohonom sy’n rhoi cip ar Twitter bob hyn a hyn, rydym yn gyfarwydd â lluniau cywrain Iestyn Hughes a da o beth yw cael cyfran ohonynt fel hyn mewn cyfrol. Ei gamp yma yw cyfleu rhyw agwedd ar y cerddi, a hynny heb fod yn rhy llythrennol ei ddehongliad. Ond fe fyddwn yn nodi, gan mai cyfrol glawr papur yw hon, nad yw’r lluniau sy’n rhychwantu dwy dudalen yn gweithio cystal bob tro am fod rhan o’r llun yn diflannu i’r plyg yn y canol.

Er bod y lluniau a’r cerddi yn sefyll ar wahân yn gyffredinol, mae ambell eithriad lle mae’r cyfuniad o eiriau a delwedd yn gyfareddol; fe ddylai rhain gael eu gwneud yn bosteri fel y gyfres oedd mor boblogaidd erstalwm.

Petai’n rhaid beirniadu, daw’n amlwg o edrych ar y map ar y tudalennau cyntaf fod rhai siroedd yn cael mwy o sylw na’i gilydd ac fe all deheuwyr deimlo eu bod yn cael cam, ond yn sicr, nid mater hawdd oedd dewis y 50 ac maent yn rhychwantu mynyddoedd, llynnoedd, aberoedd, y gwledig, y trefol, y diwydiannol, yr hanesyddol a’r emosiynol; ie, Cymru mewn 50 o gerddi.

Beryl H. Griffiths

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Llyfrau tebyg

Trysorau’r Nadolig

Clawr Trysorau'r Nadolig

12.95
Jo Heyde
Hydref 31, 2025

Mae

Clawr cyfrol ‘Mae’, Mererid Hopwood

10
Mererid Hopwood
Gorffennaf 9, 2025

Holl Lawenydd Gwyllt

Clawr Holl Lawenydd Gwyllt Llŷr Gwyn Lewis

9.95
Llŷr Gwyn Lewis
Mehefin 4, 2025

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899