Cyfrol unigryw a gwreiddiol yn y Gymraeg sy'n cyflwyno ysgrifau a cherddi newydd sbon ar wahanol themâu’n ymwneud â yoga a meddylgarwch.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Adolygiad
Geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin sydd yn yr isdeitl, ac adlais o gerdd Waldo ac o lythyr Paul at y Rhufeinaid yn y prif deitl, ond rhwng y tudalennau, geiriau’r awdur, yn dyner, glir a gonest sydd yma, yn trafod pynciau sy’n gysylltiedig â yoga a meddylgarwch – disgyblaethau sy’n blodeuo ac yn cynyddol fagu cydnabyddiaeth a pharch yn ein cymdeithas, wrth i iechyd holistaidd hawlio ein sylw yng nghyd-destun effeithiau’r pandemig. Mae yma gyfeirio at synnwyr greddfol nifer fawr ohonom, a “[b]od llawer o’r atebion yr ydym ni’n chwilio amdanynt i’w canfod y tu mewn i ni’n hunain, ac nid ar y tu allan”.
Noda’r awdur mai ceisio rhoi blas yw ei bwriad, “a hynny mewn geiriau sy’n gyfarwydd i ni fel Cymry sy’n siarad Cymraeg”.
Ceir penodau ar themâu gwreiddio, caredigrwydd, anadlu, egni, bodlonrwydd, ildio, myfyrio, a gorffwys. Mae patrwm i bob pennod: darlun lliw, pennill, trafodaeth, pennill, ac ymarferiad. I bob thema cyflwynir trafodaeth fer ar y pwnc gan gyfuno eglurhad gwyddonol ac athronyddol â phrofiadau a chyd-destun personol sy’n creu naws gartrefol, esmwyth a chroesawgar i’r darllenydd. Trysorau’r gyfrol hon yw’r nifer o gerddi cain gan feirdd cyfoes, a hefyd gerddi gan fawrion ein cenedl, Waldo Williams a Dic Jones.
I bob thema mae lliw gwahanol, caredig i’r llygad, o liw’r ddaear, a darluniau gan Luned Aaron yn fynegiant gweledol trawiadol i’r pwnc dan sylw. Mae’r ymarferion yn addas i bawb, ac yn cyfuno technegau yoga a meddylgarwch megis ‘ystum y mynydd’, myfyrdod caredigrwydd cariadus, arafu’r anadl, dod o hyd i’r egni, diolchgarwch, hunanholi, sganio’r corff, yoga adferol a yoga nidra.
Os peri’r geiriau o iaith Sanskrit ychydig o benbleth, mae geirfa ddefnyddiol a diddorol yng nghefn y gyfrol yn egluro ystyr geiriau fel tadasana, sef “Enw’r iaith Sanskrit ar ystum a adwaenir fel ‘Ystum y Mynydd’ wrth ymarfer yoga. Mae’n gyfuniad o’r geiriau tada ‘mynydd’ ac asana ‘sedd’ neu ‘ystum’.”
Ar y dudalen flaen ac yn y llyfryddiaeth a’r rhestr ddarllen pellach yng nghefn y gyfrol cyfeirir at gyfieithiad Cymraeg ‘Y Fendigaid Gân’ gan yr Athro Cyril G. Williams o destun clasurol y Bhagavad Gītā. A dyma osod y gyfrol hon mewn llinach brin o drysorau ym maes yoga a meddylgarwch yn y Gymraeg. Dyma wedd gynhenid Gymreig, flasus iawn, ar bwnc a gysylltir yn arferol â’r dwyrain.
Bydd yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i holl ymarferwyr yoga a meddylgarwch, i athrawon ac arweinwyr yn y maes, ac i bob un sydd yn mwynhau ymddiddan ynghylch “ein hanfod, ein craidd a’n rhuddin”.
Mair Jones
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.