• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Newyddion > Datganiad i’r Wasg: Ni Bia’r Awyr – Guto Dafydd

Datganiad i’r Wasg: Ni Bia’r Awyr – Guto Dafydd

1 Tachwedd, 2014

Golwg newydd ar Gymru’n cyfnod ni.

Mae cyfrol gyntaf o gerddi’r Prifardd Guto Dafydd, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni, newydd ymddangos o’r wasg gan Gyhoeddiadau Barddas.

Cyhoeddir Ni Bia’r Awyr yn y gyfres ‘Tonfedd Heddiw’ sy’n rhoi llwyfan i feirdd ifanc, disglair.

Cerddi sy’n ymateb i gymdeithas heddiw, ac yn benodol i Gymru heddiw yw’r casgliad a geir yn y gyfrol hon. Gwna’r bardd hynny mewn ffordd ffraeth a choeglyd ambell waith, a thro arall mewn ffordd feddylgar ac ystyriol. Dyma gasgliad cyffrous o gerddi dychmygus, afieithus a hynod o grefftus – a hynny gan fardd ifanc sy’n feistr ar gyfathrebu efo’i gynulleidfa. ‘Dwi’n gobeithio bod y cerddi hyn yn taflu golwg newydd, wahanol ar Gymru’n cyfnod ni,’ meddai Guto. ‘Mae’r hen, hen bryder ynghylch dyfodol y Gymraeg a’i chymunedau yn britho’r gyfrol, ond fy mwriad oedd ceisio mynegi’r argyfwng hwnnw mewn modd lliwgar, llachar a ffres. A neges obeithiol sydd gen i, am yr hyn sy’n bosib pan ydan ni’n cydio yn ein diwylliant a mynd ag o i lefydd newydd.’

Ychwanegodd: ‘Dwi’n ceisio barbeciwio ambell fuwch gysegredig, ond ar yr un pryd dwi’n defnyddio’r traddodiad barddol i ddweud fy neges ac yn ceisio creu darlun sensitif, sylwgar o bobl a chymdeithas.

‘Hon ydi fy nghyfrol gyntaf o gerddi, a dwi’n gobeithio y bydd pobl yn cael eu cyffroi a’u cynhyrfu ganddi – ac y bydd yn ysbrydoli pob math o ymateb.’

Bydd Cyhoeddiadau Barddas yn lansio Ni Bia’r Awyr yn nhafarn y Whitehall, Pwllheli ar nos Iau 13 Tachwedd fel rhan o benwythnos gweithgareddau Gŵyl Farddoniaeth T? Newydd.

Ni Bia’r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas): Pris £6.95

Cofnod blaenorol « Christine James yn dod i’r brig
Cofnod nesaf: Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn »

Prif Far Ochr

Sidebar newyddion

Y llyfr dan sylw

Ni Bia’r Awyr

Ni Bia'r Awyr

6.95
Guto Dafydd
Hydref 12, 2014


Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899