Am yr ail flwyddyn yn olynol, y mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu fod cyfrol o farddoniaeth o’i stabl wedi dod i’r brig yn y categori barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Wrth gyhoeddi eu dyfarniad, dyma ddywedodd y panel beirniaid am Rhwng y Llinellau: “Yn ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, cyflwynodd Christine James inni gasgliad chwareus a di-ildio o gerddi mentrus iawn.”