• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Newyddion > Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn

Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn

26 Ebrill, 2015

Dafydd Islwyn, ysgrifennydd y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn derbyn Gwobr Cyfraniad Oes Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

Un o uchafbwyntiau Gwyl Bedwen Lyfrau 2015, yr wyl lyfrau Gymraeg a gynhelir yng Nghanolfan Soar, Merthyr ar 2 Mai, fydd cyflwyno Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn. Eleni, a hithau’n 35 mlynedd ers iddo gymryd yr awenau fel Ysgrifennydd Barddas, mae’n hyfrydwch gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru gyflwyno’r wobr i un sydd wedi cyfrannu’n ddiflino at gynnal y diwylliant Cymraeg yng Nghwm Rhymni – a thu hwnt.

Dafydd Islwyn
Dafydd Islwyn

O Fôn y daw Dafydd Islwyn yn wreiddiol, ond ymgartrefodd yng Nghwm Rhymni yn y chwedegau. Bu’n athro yn Ysgol Gynradd Trelewis am bymtheg mlynedd cyn symud i Ysgol Gymraeg Caerffili, lle bu’n ddirprwy bennaeth.

Cafwyd cyfle i dalu teyrnged i Islwyn yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010 am ei gyfraniad fel bardd a hefyd am ei gyfraniad fel Cadeirydd Cylch Llenyddol Bro Elyrch. Wrth glywed y newyddion am dderbyn yr anrhydedd gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, dywedodd ei bod yn ‘fraint anhygoel iddo’ a’i fod yn edrych ymlaen at gael cyflwyno sgwrs ar ‘Englynion fy Mywyd’ yng Ngwyl Bedwen Lyfrau am 3 o’r gloch brynhawn Sadwrn Gwyl y Banc yng Nghanolfan Seilo.

Mae hoffter Dafydd Islwyn o gasglu englynion – mesur a ddisgrifiwyd ganddo unwaith fel ‘un o saith rhyfeddod y Pethe yng Nghymru’ – wedi bod yn ddiddordeb iddo gydol ei oes ac yn dipyn o chwedl ymysg beirdd Barddas. Cyhoeddwyd ffrwyth ei waith gan Gyhoeddiadau Barddas yn y cyfrolau 100 o Englynion(2009) ac Englynion y Genedlaethol 1900 – 1999(2012), a chyhoeddodd gyfrol o’i gerddi, Dal Diferion yn ogystal. Eleni, fel erioed, bydd Dafydd Islwyn wrth fwrdd Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên yn Eisteddfod Maldwyn yn cadw’r marciau, yn un o wir geidwaid ein diwylliant.

(Llun trwy garedigrwydd Iestyn Hughes)

Cofnod blaenorol « Datganiad i’r Wasg: Ni Bia’r Awyr – Guto Dafydd
Cofnod nesaf: Triawd Barddas ar y Brig »

Prif Far Ochr

Sidebar newyddion

Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899