Ble mae’r Dref Wen? Ble mae Pengwern? Ble mae Rhodwydd Forlas? Dyma rai o’r cwestiynau mae Myrddin ap Dafydd yn mynd ati i’w hateb yn ei gyfrol gyntaf i Gyhoeddiadau Barddas sy’n edrych ar y canu englynol cynnar yng nghalon yr Hen Bowys yn nhalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ac yntau’n awdur toreithiog i blant ac oedolion ac yn storïwr heb ei ail, yr hyn a wna Myrddin ap Dafydd yn y gyfrol hon yw edrych ar ddaearyddiaeth Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen o’r 9fed ganrif, gan bwyso a mesur pam mae eu dylanwad mor gryf ar ein canu o hyd.
Cyflwynir y gyfrol er cof am yr Athro R. Geraint Gruffydd fu farw yn ddiweddarach eleni; yn ôl yr awdur, ‘Ef oedd yn gyfrifol am wneud englynion y Canu Cynnar yn hoff faes fy astudiaeth coleg i mi’. Cawn ein tywys ar daith hanesyddol, wleidyddol sy’n edrych ar werth ac arwyddocâd mythau, gyda bron i 70 o luniau ffotograff lliwgar a mapiau yn dod
Yn y Rhagymadrodd i’r gyfrol mae Myrddin ap Dafydd yn holi ‘Beth oedd y rheswm dros greu’r englynion a rhoi’r geiriau yn ngenau cymeriadau hanesyddol oedd yn fyw ddau gan mlynedd ynghynt? Beth oedd yn digwydd yng Nghymru tua 850 oedd yn galw am ddod â stori teuluoedd cyfnod colledus 600-650 yn ôl i gof gwlad? Ac yna, pam mae’r cymeriadau hyn a’r englynion amdanynt wedi dychwelyd i fod â rhan amlwg yn niwylliant ein gwlad dros fil o flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyfansoddi?’
Yn ogystal â bwrw golwg cyffredinol ar yr englynion cynnar, mae Myrddin yn mynd ati i edrych yn fanwl ar dair cyfres o englynion o Ganu Heledd a thair cyfres o Ganu Llywarch. Cerddi llawn galar a hiraeth yw cerddi Canu Heledd, ac fe’u cyfansoddwyd yn y 9fed ganrif i gofio am yr ymosodiad ar y teulu brenhinol; lladdwyd Cynddylan, brawd Heledd, a llosgwyd Llys Pengwern (neu ‘Stafell Gynddylan’ fel y’i gelwir). Cerddi galar a hiraeth ydynt ac ar un olwg nid oes un llygedyn o oleuni ynddynt. Ond eto, y maent wedi ysbrydoli cerddi a chaneuon newydd, caneuon fel ‘Y Dref Wen’ gan Tecwyn Ifan sy’n annog y gynulleidfa i ailgyfaneddu lleoedd sydd wedi’u colli.
Wrth gofio’n ôl i’w ddyddiau yn fyfyriwr yn Neuadd Pantycelyn ddiwedd y saithdegau, mae Myrddin yn pwysleisio cymaint roedd caneuon Tecwyn Ifan ar record Yn Ôl i’r Dref Wen yn taro tant. ‘Roedd y cywair lleddf yn gweddu i ysbryd y genhedlaeth yn y Coleg ger y Lli y nosweithiau hynny … Yn nhymor yr haf, 1977, roedd Stafell Gynddylan a Neuadd Pantycelyn yn un. Mewn ffordd eironig, efallai eu bod yn nes fyth erbyn hyn.’
