• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Newyddion > Y Gân Olaf – datganiad i’r Wasg

Y Gân Olaf – datganiad i’r Wasg

1 Gorffennaf, 2015

Nos Sadwrn 11 o Orffennaf bydd Y Gymdeithas Gerdd Dafod yn lansio’r gyfrol farddoniaeth bwysicaf, o bosib, a gyhoeddwyd erioed gan Gyhoeddiadau Barddas.

Fel rhan o Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas, ‘Gwyl Gerallt’ a gynhelir yn Galeri Caernarfon, bydd Barddas yn lansio Y Gân Olaf, cyfrol ddiwethaf o gerddi Gerallt Lloyd Owen.

“Profiad chwerw-felys i Barddas yw gweld cyhoeddi Y Gân Olaf,” yn ôl y Prifardd Dafydd John Pritchard, Cadeirydd y Gymdeithas Gerdd Dafod. “Y mae llawer yng Nghymru yn hawlio darn o Gerallt gan mor fawr ei gyfraniad mewn sawl maes, ond fe allwn ni yn Barddas ddweud â sicrwydd fod Gerallt yn un ohonom ni. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i’r Gymdeithas Gerdd Dafod, a’n braint ni yw cyhoeddi cyfrol y rhoddodd Gerallt ofal mawr yn ei llunio. Hyd y diwedd nid oedd yn fodlon cyhoeddi dim nad oedd o’n gwbl fodlon ag o.”

Yn 1991 y cyhoeddwyd cyfrol o gerddi Gerallt ddiwethaf – Cilmeri a cherddi eraill – a hynny gan Wasg Gwynedd. Er bod nifer o gerddi Y Gân Olaf wedi gweld golau dydd eisoes, ni ddewisodd Gerallt eu cywain ynghyd tan ddiwedd ei oes. Gwrthododd gynnwys rhai o’i gerddi yn ogystal.

“Roedd Dad wedi sgwennu’r cerddi i gyd mewn pad A4, a chyfarwyddiadau manwl, hyd yn oed ei ddewis o ffont,” eglura Mirain, merch hynaf Gerallt. “Mae’r gyfrol bron iawn yn union fel yr oedd o wedi bwriadu iddi fod ond mae’n go amlwg i mi ei fod yn gwybod na fyddai o yma i weld ei chyhoeddi.”

Meddai Gruffudd Antur yn y Rhagair: ‘ “Gair, wedi’r êl gwr, a drig”. Er rhoi taw ar y llais, bydd y geiriau’n dal i’n cyffroi a’n hanesmwytho, ein sobri a’n hysgogi, ac fe fyddant, fel yr hen fynyddoedd gwarchodol hwythau, yn loetran o gwmpas rhag ofn.’

Cyflwynir y gyfrol i Seán Gethin Owen, wyr Gerallt, yn Iwerddon.

Cofnod blaenorol «John Glyn Jones John Glyn Jones
Cofnod nesaf: Yn ôl i’r Dref Wen: datganiad i’r wasg Yn ôl i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen»

Prif Far Ochr

Sidebar newyddion

Y llyfr dan sylw

Y Gân Olaf

Y Gan Olaf - Gerallt Lloyd Owen

9.95
Gerallt Lloyd Owen
Mehefin 19, 2015


Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899