Gyda phawb mor awyddus i brynu yn dilyn y cyhoeddi, mae’n braf iawn cael rhannu bod y gyfrol Mae, Mererid Hopwood, wedi’i hailagraffu.

Rhwng y cyhoeddi a heddiw, mae yna eirdaon caredig dros ben wedi ein cyrraedd. Meddai Gareth Bonello bod yma ‘[g]asgliad cain sy’n troelli’n dyner o amgylch craidd ein bod.’ Dywedodd Manon Steffan Ros bod y ‘byd i gyd o fewn cloriau’r gyfrol bwerus hon’, a bod y cerddi ‘yn ddewr yn eu dweud a’u symlrwydd.’ Cafodd Ceri Wyn Jones flas garw ar y gyfrol hefyd, gan ddweud bod yma ‘[g]erddi sy’n credu yng ngallu iaith i ddod â phobol at ei gilydd a pheri iddyn nhw ddychmygu gwell byd.’
Sut i grynhoi Mae, felly? Llwyddodd Gwenno Saunders i daro’r hoelen ar ei phen. Meddai:
‘Rhoddir y gyfrol hon y teimlad o ymlwybro’n ysgafndroed i lawr at gwm wedi’i greu o gerddi, a’n tywys yn garedig tuag at galon ein seice cenedlaethol, at ddyfnderoedd yr anymwybod Cymreig – lle cynnes, cysurlon a chadarn, llawn cariad.’
Os nad ydych chi wedi mynnu eich copi eich hun o Mae, yna gobeithio bod y geirdaon hyn yn ddigon o ysgogiad. Ac i bawb sydd wedi prynu – diolch o galon am gefnogi Cyhoeddiadau Barddas, Mererid Hopwood, a’r neges daer am heddwch sy’n lliwio, ac yn llywio’r cerddi i gyd.
