Byddwn yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas Gerdd Dafod – Barddas – ar nos Fercher, 10 Rhagfyr am 6 o’r gloch yr hwyr drwy gyfrwng Teams.
Cyfarfod agored i holl aelodau’r Gymdeithas Cerdd Dafod yw hwn, a’i brif ddiben yw adrodd ar weithgaredd y flwyddyn Ebrill 2024–Mawrth 2025 a chymeradwyo mantolen flynyddol y Gymdeithas (2024-25).
Mae pob croeso ichi ymuno, a byddai’n dda iawn cael eich cefnogaeth.
Bwriadwn hefyd gywain barn ein haelodau am raglen gyhoeddi’r Gymdeithas ac am ein cylchgrawn, Barddas.
Sut i ymuno
I ymuno, cysylltwch ag Aled, Ysgrifennydd y Gymdeithas Gerdd Dafod drwy e-bost [email protected] erbyn nos Sul, 7 Rhagfyr er mwyn cofrestru eich manylion ar gyfer anfon dolen gyswllt Teams a phapurau’r cyfarfod i’ch cyfeiriad e-bost.
Codi mater
I godi unrhyw fater cyfansoddiadol ynglŷn â gweithgaredd Y Gymdeithas yn ystod y cyfarfod, cysylltwch ag Aled yr Ysgrifennydd drwy e-bost neu lythyr erbyn dydd Gwener, Rhagfyr 5ed, os gwelwch yn dda.
Cysylltu
Aled Evans
Ysgrifennydd Barddas
[email protected]
07909 109105
Abercuawg,
33 Penymorfa,
Llangynnwr,
Caerfyrddin
SA31 2NP
