Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Erthyglau > Blas o golofn newydd Llais y Meini gyda Guto Rhys

Blas o golofn newydd Llais y Meini gyda Guto Rhys

Yn rhifyn 339 o Barddas rydym yn croesawu colofnydd newydd, sef GUTO RHYS, ysgolhaig a ieithydd Celtaidd o Lanfairfechan sy’n byw bellach yng Ngwlad Belg. LLAIS Y MEINI mae o’n galw’r golofn, a sôn y bydd hi am englynion bedd. Dyma ichi flas bach ar ei golofn gyntaf. Cewch ddarllen yr ysgrif i gyd, a’r englynion eu hunain – rhai gwych a rhai gwachul – yn rhifyn 339!

Mae cynllun ar droed i gofnodi a thynnu lluniau holl englynion bedd y byd cyn inni golli llawer ohonynt am byth. Bu degau o aelodau brwd o’r grŵp Facebook Englyn Bedd yn tynnu lluniau a’u huwchlwytho. Y gobaith yw cael cyllid sylweddol i ddigideiddio’r corpws cyfan cyn ei bod yn rhy hwyr.

Guto Rhys - colofnydd Barddas
Guto Rhys – colofnydd Barddas

Mae’n bur debyg mai dim ond ar y cerrig eu hunain y ceir y rhan fwyaf o’r englynion hyn gan nad oes modd eu cael ar Google na thrwy wefan Cylchgronau Cymru nac ychwaith mewn casgliadau cyhoeddedig, hyd y gwyddys. Mewn ambell i fynwent, fel honno a berthyn i Eglwys Deiniol yn Llanddeiniolen (Arfon), ceir nifer sylweddol ohonynt, ond prin yw’r mynwentydd heb o leiaf un neu ddau. Yn wir, oni bai eich bod chi yn Sir Faesyfed neu yn Sir Fynwy mae’n bur debyg eich bod ar hyn o bryd o fewn milltir neu ddwy i englyn bedd!

Yr englyn bedd cynharaf y gwn i amdano yw hwnnw i Rys Goch Eryri (bl. 1385 – 1448) o waith ‘Gwilym Lleyn’ o 1570 yr honnir ei fod ym mynwent Beddgelert. Ond er dyfal chwilota gan hynafiaethwyr brwd methwyd â chael hyd i’r garreg ac felly rhaid gohirio’i dderbyn fel man cychwyn y traddodiad.

Tanysgrifio

Gallwch brynu rhifynnau o Gylchgrawn Barddas yn eich siopau lleol, ond y ffordd hawsaf i dderbyn Barddas trwy’r post yw tanysgrifio am gwta £25 y flwyddyn.

Tanysgrifio

Prin iawn yw’r englynion yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a’r gyfundrefn farddol yn prysur ddadfeilio a’r grefft bellach yn nwylo nifer bychan o hynafiaethwyr. Araf ac anwastad yw’r twf hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac yn aml mae’r mynegiant yn drwsgl, y cynnwys yn llac a’r gynghanedd yn wallus. Ond gyda’r dadeni llenyddol, daw gwelliant, a gwelir cynnydd aruthrol yn y nifer, y gwrthrychau a’r safon yn enwedig o tua 1830 ymlaen. Dyma gyfnod yr ‘Hen Bersoniaid Llengar’, eglwyswyr a hynafiaethwyr diwylliedig. I ddysgedigion eraill a gwŷr cefnog y canwyd y rhan fwyaf o’r englynion. Clod digon arwynebol, yn ôl ein safonau ni, a geir yn bennaf yn y cyfnod hwn – marwnadu sy’n gallu ymddangos yn gofnodol ddideimlad a barddonllyd.

Yn sgil twf aruthrol Anghydffurfiaeth tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd datblygu nid yn unig werin lythrennog ond hefyd ddosbarth canol llengar. Defod gymdeithasol fecanyddol yn hytrach na gweledigaeth farddol neu grefyddol sy’n cyfrif am swmp englynion y cyfnod hwn. Eto i gyd ceir llawer o englynion gwreiddiol gan gynnwys rhai i ŵr du Cymraeg, cyrff a gafwyd ar lan y môr wedi’u boddi, pobl a lofruddiwyd ac yn y blaen.

Cofeb Hedd Wyn - Trawsfynydd
Cofeb Hedd Wyn – Trawsfynydd

Mae’n debyg bod y Rhyfel Mawr ac ysgytwad lladdfa’r ‘bechgyn’ yn drobwynt yn hanes yr englyn bedd. Gwelir y pwyslais ar Dduw a’r nefoedd ac Atgyfodiad yn ildio fwyfwy i ganu mwy personol lle cawn gip ar yr ymadawedig ei hun, neu ymdriniaeth â gwirioneddau mwy. Enghraifft dda yw englyn coffa Hedd Wyn i’w gyfaill, Tommy Morris, sydd i’w weld ar y gofeb yn Nhrawsfynydd.

Rhaid pwysleisio nad yn unig yng Nghymru y’u ceir. Gwn am rai ym mynwentydd trefi Lloegr fel Croesoswallt, Falmouth a hefyd yn Lerpwl, ‘prifddinas Gogledd Cymru’ ganrif yn ôl. Mae rhyw drigain yn y Wladfa a llawer ym mynwentydd capeli Cymraeg niferus yr Unol Daleithiau. Ac mae englynion bedd yn ddigon cyffredin hyd heddiw a safon gwaith ail hanner yr ugeinfed ganrif ymlaen yn ysgubol, gyda beirdd gwlad medrus a phrifeirdd oll yn cyfrannu i’r cyfoeth.

Ond yr hyn sydd yn frawychus yw bod llawer o’r cerrig bedd yn cael eu symud, weithiau i gorneli tywyll mynwentydd neu i wneud pafin handi. Dichon mai hwn yw’r corff mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg sydd heb ei gofnodi ac mae’n draddodiad unigryw yn Ewrop. A chyda chau capeli a cholli’r to diwylliedig hŷn yr ydym yn prysur golli’r wybodaeth gefndir am gyfran helaeth o’r cyfoeth hwn. Rhan o’r ymgyrch i’w ddiogelu fydd y gyfres hon o erthyglau…


Awdur


Guto Rhys

Guto Rhys

Mae Guto Rhys yw awdur colofn Llais y Meini Cylchgrawn Barddas. Mae Guto yn ysgolhaig a ieithydd Celtaidd o Lanfairpwll sy’n byw bellach yng Ngwlad Belg.

twitter.com/gutorhys1



Prif Far Ochr

Sidebar erthygl

Rhifyn dan sylw

339: Rhifyn Gaeaf 2018

Clawr Rhifyn 339 Cylchgrawn Barddas 6 Gaeaf 2018


Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Beirdd Barddas
  • Cysylltu
  • Preifatrwydd a Cwcis

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2022: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio.

Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio. Mae cwcis yn gwneud pethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n helpu i ddeall pa rannau o'r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Mae angen cwcis angenrheidiol er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch chi'n rhwystro pob cwci ar ein gwefan, efallai na fydd yn gweithio'n iawn.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cwcis trydydd parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, pa ddolenni sy'n cael eu clicio, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Gall y cwcis hyn hefyd gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel cyfri nifer o weithiau mae fideos YouTube sydd wedi eu mewnblannu yn cael eu gwylio.

Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!