Yn y rhifyn hwn mae adladd Caerdydd, gan gynnwys y cerddi caboledig a ddaeth yn agos ati yn y prif gystadlaethau. Rhoddir sylw i enillwyr tlysau Barddas eleni ac mae teyrnged i Meic Stephens gan Gwerfyl Peirce Jones.
Rhif: 339 | Tymor: Gaeaf 2018
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cyfranwyr
Cerddi
Colofnau
Beirniadaethau
Cynnwys Gaeaf 2018
Mi fydd darllenwyr y cylchgrawn wedi sylwi nad ydi colofn Sian Northey yn y rhifyn hwn. Mae hi’n iawn i golofnydd gael seibiant bach o dro i dro! Hefyd, does dim signal yn ynys Enlli.
Dydi colofn Dewi Prysor ddim yn y cylchgrawn chwaith! Mi gytunodd o iddi gael ei chyhoeddi y tro hwn ar y wefan er mwyn rhoi mwy o le i ‘r holl ddeunydd ôl-eisteddfodol.
Mi fydd ‘Cadwyni Papur’ ac ‘Awyr Iach’ yn eu holau yn y flwyddyn newydd. Ond fydd ‘Trydar Mewn Trawiadau’ Llion Jones ddim. Mae Llion wedi penderfynu rhoi’r gorau i drydar ar bapur. Ond bydd yn dal ati ar y we debyg iawn. Diolch yn fawr iawn iddo am gyfres hir o golofnau difyr ac arloesol.
Gyda llaw, sawl gwaith mae Dafydd Islwyn yn ymddangos yn Barddas y Gaeaf? Beth ydi’r ffurf ferfol sy’n brifo o wallus ar dudalen 56? A pha englyn-y-dydd buddugol (tudalen 48) oedd ddim mor fuddugol y tro cynta’ i fardd o Lanuwchllyn ei daro yn y blwch yn stondin Barddas?