Dwy gerdd i longyfarch Prifeirdd Eisteddfod Caerdydd 2018, Catrin Dafydd a Gruffudd Owen.
I Gruff
Be ydym ond rhai’n bodio trydarfyd
Rhyw dyrfa ddiflino?
Ni a’n rhegi a’n bragio,
Yn rhegi’r gwir a’r gwir o’i go.
Ond doi yn rhith y dewin a thrwy’r borth
I’r Bae cawn dy ddilyn
I wasgu’r haf trwy led sgrîn,
Hwnnw’n haf anghynefin.
Yn ddigidol blwyfol i ble yr awn
A’n cri yn y gwagle?
Fe fynni Gruff sylfaen gre’ –
Eira’r awdl ydi’n troedle.
Gruff fardd plant, Gruff gerdd dantiwr, Gruff y gerdd
Gruff y gwir archstompiwr,
Gruff yn iau a Gruff hen ŵr,
Gruff y ddawn, Gruff ddiddanwr.
Gruff Pwllheli, Gruff gwmnïydd. Hefyd
Gruff ein Prifardd newydd.
Ein gŵr hoffus wyt, Gruffudd,
Gŵr ar dân. Gruff o Gaerdydd.
I Catrin
O naid i naid daw syniadau d’afiaith
Ar Daf, nes bod hwyliau
Bach gwynion dy grychdonnau
Ym mhob cwys yn bywiocáu.
Ni all y rhew dy dewi – nid dros dro
Yw’r straeon sy’n berwi
Yn un llanw nes llenwi
Don wrth don dy Grangetown di.
Awdur
Osian Rhys Jones
Bardd a chynhyrchydd digidol yw Osian Rhys Jones. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Mae'n un o sylfaenwyr Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd.