• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Cerddi > Llongyfarch Gruff a Catrin

Llongyfarch Gruff a Catrin

Dwy gerdd i longyfarch Prifeirdd Eisteddfod Caerdydd 2018, Catrin Dafydd a Gruffudd Owen.

I Gruff

Be ydym ond rhai’n bodio trydarfyd
Rhyw dyrfa ddiflino?
Ni a’n rhegi a’n bragio,
Yn rhegi’r gwir a’r gwir o’i go.

Ond doi yn rhith y dewin a thrwy’r borth
I’r Bae cawn dy ddilyn
I wasgu’r haf trwy led sgrîn,
Hwnnw’n haf anghynefin.

Yn ddigidol blwyfol i ble yr awn
A’n cri yn y gwagle?
Fe fynni Gruff sylfaen gre’ –
Eira’r awdl ydi’n troedle.

Gruff fardd plant, Gruff gerdd dantiwr, Gruff y gerdd
Gruff y gwir archstompiwr,
Gruff yn iau a Gruff hen ŵr,
Gruff y ddawn, Gruff ddiddanwr.

Gruff Pwllheli, Gruff gwmnïydd. Hefyd
Gruff ein Prifardd newydd.
Ein gŵr hoffus wyt, Gruffudd,
Gŵr ar dân. Gruff o Gaerdydd.

Tanysgrifiwch i dderbyn Barddas

Gallwch brynu rhifynnau o Gylchgrawn Barddas yn eich siopau lleol, ond y ffordd hawsaf i dderbyn Barddas trwy’r post yw ymaelodi â’r Gymdeithas Gerdd Dafod am gwta £35 y flwyddyn. Cewch lawer mwy na dim ond cychgrawn hefyd!

Tanysgrifio

I Catrin

O naid i naid daw syniadau d’afiaith
Ar Daf, nes bod hwyliau
Bach gwynion dy grychdonnau
Ym mhob cwys yn bywiocáu.

Ni all y rhew dy dewi – nid dros dro
Yw’r straeon sy’n berwi
Yn un llanw nes llenwi
Don wrth don dy Grangetown di.


Awdur


Osian Rhys Jones

Osian Rhys Jones

Bardd a chynhyrchydd digidol yw Osian Rhys Jones. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Mae'n un o sylfaenwyr Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd.

osian.cymru

twitter.com/osianrhysjones


Prif Far Ochr

Sidebar cerdd

Rhifyn dan sylw

339: Rhifyn Gaeaf 2018

Clawr Rhifyn 339 Cylchgrawn Barddas 6 Gaeaf 2018


Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899