Aron Pritchard oedd All-lein yn y gystadleuaeth, cystadleuydd a ddisgrifiwyd gan Rhys Iorwerth fel “bardd talentog”. Mewn cystadleuaeth o safon, cyrhaeddodd ei awdl frig yr ail dosbarth.
Yng ngeiriau Rhys Iorwerth yn ei feirniadaeth ar gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd eleni, “dylai fod yn fater o falchder i’r brifddinas ac i’r Eisteddfod bod y frwydr wedi bod yn un mor gref”. Pleser mawr i Barddas yw cael rhoi llwyfan i ffrwyth y frwydr honno.
Mae awdlau Eurig Salisbury a Llŷr Gwyn Lewis i’w gweld yn rhifyn Hydref 2018 o’r cylchgrawn, ond yn arbennig ar gyfer selogion gwefan Barddas, mae awdl Aron Prichard ar gael i’w darllen yma.
“Mae cerdd All-lein yn gyfoes ac yn wahanol ei llais; mae’n gynganeddwr cryf sydd efallai’n haeddu lle mewn dosbarth uwch.”
Emyr Davies
Braint Barddas yw cael cyflwyno’r awdl i sylw’r byd.
Porth
O dawelwch dy wely, y noson
ddinesig sy’n mynnu
nad oes cusan i’w rhannu’n
y gwyll diflas, oera’ sy…
…botwm. Ti’n gwibio eto ar unwaith,
yn rhyw hanner effro,
o dir yr hwyr yn dy dro.
Rhuthr i’r porth, i’r apiau hyn, sianeli
sy’n hawlio pob mymryn
o dy fod. Fe ei wedyn
o’r porth â naid, i’r parthau’n ôl a dal
ym mhob dolen arferol
yn y gadwyn ddigidol.
Glanio. Dotio ar statws hwn-a-hon
â’u henwau’n dy storws.
Mwynhau proffiliau, a ffws
dy seithfed nef, lle hefyd na allu
di golli’r un funud
sydd o bwys (sa’i ddiwedd byd)!
Eisiau’r holl hanes a’r lluniau, eisiau
can dwsin o ffrindiau
i ledu dy sylwadau.
Eisiau drwy’r nos. Di droi’n ôl yw’r eisiau
direswm tragwyddol.
Y mae’r eisiau mor oesol
ar y we. Mae’n fan real i tithau.
Nid taith artiffisial
ydyw’r un o’th bedair wal
drwy’r ffôn, ond lôn y dilyni go iawn,
ac yna fe gei-di
yn y diffyg, dy hoffi…
…ac oherwydd ei bod hi yn gwawrio
yn ara deg, ti’n chwerwi a digio.
Dannod dy orchwyl ar sgrîn noswylio
a’r we hefyd (mae’r ceir wrthi’n refio
eu hatgasedd). Ei ati i geisio
cwsg am ennyd. Aiff ennyd, a ffonio
mae cyflogwr. Yn siŵr, oriau sero!
Rhyw ddiwrnod solet mewn bwyty eto
â’i geiniogau’n y gegin o nagio!
Ond, os sifft, ti’m yn dewis ei hwfftio;
rhent a godir, a daw rhent i gydio.
I’r gawod oer, o godi, a herio’r
dydd wyt ar ei strydoedd o. Bore bach,
a bore afiach, real, yn brifo…
…brysio. Deisio drwy’r stesion.
Eisiau dy ffics a dy ffôn.
Naid i drên, a throi yn driw
wna heddiw’n llawn newyddion.
O’r porth i’r heip. Rhithwir yw
ei ddweud. Disylwedd ydyw.
Straeon ‘o bwys’ drwy ein bod
yn ddiwaelod, yn ddilyw
fel y llif hys-bys di-baid;
eitemau fesul tamaid
i’th gymell, er gwell, er gwaeth
â’u lluniaeth. Colli enaid.
Llwytho. Swatio mewn sedd.
Aros am holl gynddaredd
dwli maith y Daily Mail,
doed â ddêl, ’da’i ddialedd.
I’th ran daw propaganda
(sen ddi-hid a dim sy’n dda)
gan regi gwae hanner gwir
i lenwi’r ffrwd greulona’,
ffrwd a rydd ei phryder hi’n
ddilyniant o ddolenni.
Ti’n amau, dechrau dychryn
gyda hyn, yn gadwyni
anesmwyth, am mai pwytho
wna hithau’r we yn ei thro
yn dawel, anwel o hyd,
un ennyd i’th wenwyno…
…trên o ddistawrwydd, trên yn ddi-stori
reda hyd lein sy’n frwd â’i dolenni
reit at ei diwedd. Yno’r eisteddi
eto’n niwlog (fel mwg mewn twneli)
â phawb arall sy’n or-hoff o bori’n
ddyrys ac awchus. Rhai ar eu llechi,
ond yr un rhethreg! Dim i’w fynegi!
Nid oes eiliad i’th ysgwyd i sylwi’n
nes ar y ddinas a rydd ohoni
wawr o freuddwydion, a’r hawl i lonni,
ond ar rwydwaith y rhyngrwyd yr ei-di,
llinell gylchol heb neb i’w rheoli,
a daw stop i’th dywys di bant o’r trên
o bob dalen, i fyd sy’n bodoli…
…ac ei’n swrth i’r gegin sydd yn aros
a’n herio o’r newydd.
Yn ddigalon, aflonydd,
ti’n erfyn am derfyn dydd…
…llifo’n araf mae’r afon
o dan olau lampau’r lôn.
Fel yr afon heno’n ôl,
yn araf o arferol,
ti’n cerdded rhwng y rhedyn,
olion chŵd, a glan o chwyn.
Dy ddyrnu wnaeth dy ddiwrnod
heb ei hoe. Y tryma’n bod.
Heibio’r ei dan bont o’r bron,
dan awyr stribed neon
yn ddig. At strydoedd agos.
O fan hyn at dyrfa nos.
Tra bo ffôn a chlustffonau,
rwyt ti eto’n ceisio cau
yr hewlydd rhag realaeth
sŵn y gwyll a’r noson gaeth,
ag alawon sy’n cronni
eu dawns ar dy apiau di.
Caneuon. Traciau newydd.
Galw’r dub i giliau’r dydd.
Hawlio’r bît a theimlo’r bas
amdanat, ac mae dinas
yn y diwn a’r seindonnau
ambell waith, yn ymbellhau…
…ac â heno lond synau amgenach
a phob curiad yn guriad rhagorach,
ti’n diflannu o rygnu a grwgnach
y stryd am ennyd, ar gywair mwynach,
celu eto o’i gafael caletach
ac yn dewis osgoi haenau düach
realaeth nos mewn conglau agosach.
Eiliadau dall wrth ali dywyllach
guddia’r nodwydd wna bywyd yn rhwyddach
i rywun eiddil â’i hwyr anoddach.
Heibio’r hen wreigan a’i chamau gwannach
yn ei brifo, ’chos cymaint yn brafiach
yw cloi’r byd am funud fach rhag pob briw,
a mynnu heddiw: Mae hynny’n hawddach…
…drwy’r danffordd. Siwrnai’n corddi.
At hewl. I’r siop boteli
o raid. Potelaid i ti!
At y bloc o fflatiau blin
ym mhen pellaf y pafin
i afael dy gynefin.
Allwedd. Lle fel bedd, heb os.
Lle’n oer, a’r gwyll yn aros.
Newid wnei i ddillad nos.
Awr am awr cei chwarae mig
â thi dy hun. Ti’n unig
a’n isel o ynysig.
O ddechrau yfed, wedyn,
daw i odre dy wydryn,
a daw â’u hollt, gyda hyn,
hen rithiau carwriaethol
ddoe yn awr na dreiddia’n ôl
i dy feddiant lled-feddwol,
a charet ddêt, yn ddi-au!
Ar-lein. Mae mur o luniau
yno’n wib o wynebau’n
weledol i’w cofleidio;
eto’r un a fydd mewn tro
yn go siŵr o’th gysuro.
Golau ffôn ac oglau ffag
yn boenus, a beth bynnag,
at wely hwyr. Potel wag…
…ochain cyn dringo ger dy glustogau.
Yna rhyw gelu’n yr hanner golau.
Troi’n dy unfan mewn llif o wefannau
â’th feddalwedd yn trwytho’th feddyliau
am yr ennyd cyn gostwng amrannau.
Awr o dawelwch, ond drwy dy waliau,
aros heno’n un corws o synau
mae rhegfa’r ddinas. Dan dy gynfasau
eto i ymyl porth o fotymau.
I’r seiberofod! Sêr o hashnodau’n
pefrio i’w gwirio (er fod y geiriau’n
heidio â brathiad o’u bwrw, weithiau);
swyn apiau’r hwyr sy’n parhau fel gwreichion
i dy wefrio’n dy lecyn diwifrau…
…i’th hafan, byth a hefyd y doi-di
o adwy dy fywyd,
a dod i fan rhwng dau fyd:
Troi o alwad rheolau dy einioes
undonog, ddifaddau,
ei sŵn a’i chonfensiynau
i faes, lle cei efo hyn hunaniaeth
wahanol, ddiofyn.
Ar y we, rwyt ti’n rhywun.
Anhunedd; ond er hynny, wrth y porth,
pa ots sydd am gysgu?
O dawelwch dy wely,
o dir yr hwyr yn dy dro, ar unwaith,
yn rhyw hanner effro,
botwm. Ti’n gwibio eto…
Awdur
Aron Pritchard
Aelod o dîm Aberhafren ar y Talwrn (cafodd Dlws Coffa Dic yr Hendre am gywydd gorau’r gyfres yn 2011) a thîm Morgannwg yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hefyd yn un o Feirdd y Bragdy yn y nosweithiau barddoniaeth byw poblogaidd, Bragdy’r Beirdd, yng Nghaerdydd.