Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Adolygiadau > ‘Rhaff achub atgofion…’

‘Rhaff achub atgofion…’

Adolygiad o Tipiadau, Llion Pryderi Roberts gan Dewi Alter.

Tipiadau yw cyfrol gyntaf Llion Pryderi Roberts, gynt o Frynsiencyn, Ynys Môn, a bellach o Nelson yn y Cymoedd. Gellir ei gwerthfawrogi’n rhan o’r wledd o gyfrolau barddol a gyhoeddwyd eleni – tystiolaeth amlwg fod yr awen yn gryf ac yn iach yn y Gymru gyfoes.

Mae’r teitl a’r cloc sy’n dadfeilio ar y clawr yn dangos mai un o brif themâu’r bardd yw amser. Mewn sawl cerdd sonnir am amser yn diflannu, amser yn mynd heibio ac amser yn syrthio rhwng ein bysedd. Ar adegau mae amser yn rhywbeth i’w drysori yn gyfaill hoff y dylem ddathlu ei
gyfnodau euraid; ar adegau eraill amser yw’r gelyn pennaf, yn arwydd o feidroldeb.

Amser

Yn dilyn patrwm y cloc, ceir tair cerdd ar gyfer pob awr o’r dydd, 72 o gerddi i gyd ar amryw o fesurau; ceir sonedau a chywyddau a thelynegion i enwi ond rhai. Adleisir nifer o ddelweddau’r cerddi yn y gyfrol sy’n rhoi naws orffenedig a thynn iddi. Ond yn bennaf oll, cyflëir, er bod amser yn mynd yn ei flaen, nad ydym yn newid yn ein hanfod, a bod amser yn ei ailadrodd ei hun.

Egyr Llion Pryderi Roberts ei orffennol â nifer o gerddi ysgytwol gan ddatguddio’n grefftus ac ingol o boenus ei brofiad o alaru. Cenir hefyd am ei fwynhad fel tad wrth dystio i ddychymyg rhyfeddol ei blant, heb anghofio amdano ei hun fel gŵr, mab ac ŵyr. Nid yw’n cuddio tu ôl i bersona dychmygol, yn hytrach personau gwahanol o oes y bardd sydd yma. Mae ei gariad at ei deulu’n amlwg, a chyfrol yw hon sy’n rhoi cipolwg inni o’r bardd fel person go iawn, fel rhan o uned deuluol. Fe’n tynnir i gylch profiad y bardd wrth iddo ailddarlunio’i orffennol trwy ei atgofion.

Cof

Un o themâu amlwg eraill y gyfrol yw’r cof. Nid thema newydd yw hon i feirdd na llenorion! Yn nrama y Groegiwr Sophocles, Oedipos Frenin, mae’n rhaid i’r prif gymeriad ddarganfod ei orffennol a’i berchnogi er mwyn gwybod pwy ydyw yn y presennol. Mae’r cof hefyd yn amlwg yn y traddodiad Cymraeg, yng ngherddi Gwenallt a Gerallt Lloyd Owen. Efallai ei bod yn briodol tynnu sylw hefyd at Treiglo, Gwyneth Lewis: y cof fel trawma o golli rhiant sy’n gyrru’r gyfrol honno.

Mae cynnwys y cof yn mynd â bryd y bardd hwn hefyd, ac mae effaith trawma ar ei ddatblygiad fel unigolyn yn llinyn drwy’r gyfrol yn ei awen bersonol

Yn gyffredinol, yr hyn sy’n gwahaniaethu’r cof oddi wrth y gorffennol yw’r ddealltwriaeth oddrychol a phersonol o’r hyn a fu y mae’n ei chynnig; golwg ar y gorffennol o safbwynt y bardd sy gennym. Iddo ef, mae’r cof yn rhywbeth diriaethol a grymus yn y presennol gyda’i ddeinamig ei hun. Yn aml gall ein meddiannu’n ddirybudd. Fe’i personolir yn ‘Atgof’ ac mae’n cyd-fwyta gyda’r bardd. Ond wrth iddi wawrio diflannu a wna’r cof, mae gwirionedd diriaethol bellach wedi diflannu. Priodol iawn yw galw’r cof yn ‘Sinderela’.

Cynigia’r cof bont i’r bardd rhwng y byw a’r meirw, yn wir ‘rhaff achub atgofion’ yw nifer o’r cerddi hyn. I nodi un enghraifft, yn ‘Ellers’ mae hoff emyn ei fam yn dod yn rhyw fath o lieux de mémoire ymhle y gall y bardd gofio’i fam. Gynt roedd ei chanu’n ‘[f]yrdwn’; bellach mae’n ‘groes i’w chario’. Yn hollol ddisgwyliedig, gwrthrych aml y cof yw mam y bardd. Rhy’r cof cyfle iddo brosesu a deall ei marw, a gofyn cwestiynau
mawr am fodolaeth a phwrpas bywyd.

Gwelwn hefyd fod y cof yn fregus, fel yr ydym yn cofio pethau sydd wedi digwydd, pethau sydd wedi mynd, mae’r atgofion hefyd, er mor rymus ydynt, yn gallu diflannu fel y gwnaeth yr amseroedd ymhle y’u lluniwyd. Rhaid cofio mai gweithredoedd sy’n cadw’r atgofion hyn yn y cof. Y weithred o’u cofio. Bid siŵr, gweithred anghyflawn ydyw: nid yw’n bosibl ail-greu’r gorffennol. Ond nid y gorffennol-go-iawn ydyw, ond yn hytrach y gorffennol wedi ei lunio yn greadigol, a’r unigolyn sy’n cofio yn rhan o’r
digwydd.

Dyma gyfrol yn sicr i ddychwelyd ati wrth i amser fynd yn ei flaen. Gobeithiaf – i fod yn fyfïol am eiliad – y bydd beirdd Cymraeg yn archwilio’r cysyniad cyffröus a chyfoes hwn o hyd.


Awdur


Dewi Alter

Mae Dewi Alter yn fardd ac awdur sydd wedi cyfrannu i nifer o gyhoeddiadau megis Barddas, y Stamp ac O'r Pedwar Gwynt.


Prif Far Ochr

Sidebar Adolygiad

Y llyfr dan sylw

Tipiadau

Tipiadau - Llion Pryderi Roberts

8.95
Llion Pryderi Roberts
Gorffennaf 23, 2018


Rhifyn dan sylw

Barddas Bach y Nadolig 2018

0 Nadolig 2018


Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Beirdd Barddas
  • Cysylltu
  • Preifatrwydd a Cwcis

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2021: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio.

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio. Mae cwcis yn gwneud pethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n helpu i ddeall pa rannau o'r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Mae angen cwcis angenrheidiol er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch chi'n rhwystro pob cwci ar ein gwefan, efallai na fydd yn gweithio'n iawn.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cwcis trydydd parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, pa ddolenni sy'n cael eu clicio, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Gall y cwcis hyn hefyd gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel cyfri nifer o weithiau mae fideos YouTube sydd wedi eu mewnblannu yn cael eu gwylio.

Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!