
Dyma’r gyfrol gyntaf o gerddi Cymraeg gan Gwyneth Lewis ers dros bymtheng mlynedd. Rhwng cloriau Treiglo, mae’r bardd yn myfyrio ar y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch. Dyma gyfrol am alar, am fywyd, ac am ddod i adnabod eich hun a’r bobl agosaf atoch.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Mae iaith wastad wedi bod yn thema ganolog i holl waith Gwyneth, ac y mae treiglad amser, ac effaith hynny ar yr iaith Gymraeg yn dal i gydio yn nychymyg y bardd yn y casgliad hwn. Yn ôl Gwyneth, y treigladau yw rhai o bleserau mwyaf trafferthus yr iaith Gymraeg ac yn y gyfrol hon, mae’n defnyddio egwyddor y treigladau, y meddal, llaes, trwynol a chaled i fyfyrio ar golli ei thad a’i Gymraeg Beiblaidd, coeth. Mae mynyddoedd yn symud i ganol y môr, dyn ifanc yn mynd i’r llynges, yn prynu moto-beic, yn priodi ac yn magu dwy o ferched ac yn gwrando ar gerddoriaeth gyda nhw. Yna, mae’r gwr hwnnw’n heneiddio. Ar yr un pryd, mae llongau’n cyrraedd ac yn gadael porthladd Caerdydd a’r dychymyg yn cael ei liwio gan berthnasau o fewn y teulu a’r ddinas o amgylch. Ac yna digwydd y treiglad mwyaf, sef marwolaeth, y trawsnewidiad olaf un.
Meddai Gwyneth Lewis: “Mae’r treigladau rhwng geiriau yn y Gymraeg yn athronyddol, yn ogystal â bod yn ramadegol. Yn yr un ffordd, ry’n ni’n newid, yn ôl ein perthynas a’n teulu a’n cymdeithas, wrth i ni rwbio a chwffio yn erbyn ein gilydd. Myfyrdod yw’r gyfrol hon am dreigl y cenedlaethau, wrth i fi wylio fy nhad yn heneiddio a marw. Rwy’ hefyd yn meddwl am y newid yn y Gymraeg wrth i’r hen do gyrraedd oed yr addewid ac wrth i ni golli cysylltiad yn raddol gyda phrofiadau’r Ail Ryfel Byd a’r diwygiad Anghydffurfiol.”
Mae Gwyneth Lewis yn un o’r ychydig awduron sy’n llenydda yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyhoeddodd sawl libretto a chyfieithiadau o glasuron o fyd y ddrama yn ystod y blynyddoedd diwethaf a chipiodd ei chyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth Saesneg (Sparrow Tree; Bloodaxe) Wobr Rolant Mathias yn 2012.
Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru ac mae ei geiriau wedi eu hanfarwoli ar adeilad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Yn 2005, cyhoeddwyd y gyfrol Tair Mewn Un gan Gyhoeddiadau Barddas i ddathlu ei phenodi’n Fardd Cenedlaethol, sef detholiad o’i thair cyfrol gyntaf o gerddi (Sonedau Resda a Cherddi Eraill, 1990, Cyfrif Un ac Un yn Dri, 1996, a Y Llofrudd Iaith, 1999). Dyfarnwyd ysgoloriaeth i Gwyneth gan Lenyddiaeth Cymru yn 2011-2012 a’i galluogodd i weithio ar gerddi’r gyfrol.
Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012. Ac un o feirniaid y gystadleuaeth honno yn Eisteddfod Bro Morgannwg , Y Prifardd Cyril Jones a fydd yn holi Gwyneth yn ystod lansiad Treiglo yn yr Hen Ysgoldy, Radur, Caerdydd, nos Wener, yr 20fed o Hydref am 19.30. A bydd Archdderwydd y brifwyl honno, Y Prifardd T James Jones yn agor y noson. Trefnir y noson ar y cyd â Phwyllgor Apel Cylch Radur a’r Garth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.