Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Adolygiadau > Adolygiad o ‘Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau’

Adolygiad o ‘Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau’

Y Prifardd Gruffudd Owen sy’n cloriannu cyfrol newydd Cyhoeddiadau Barddas sy’n mynd â ni ar “daith farddol drwy’r berthynas rhwng mamau a’u plant”.

Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau.
Gol. Mari George, Cyhoeddiadau Barddas, £9.95

Beth ydi diben cyhoeddi unrhyw gyfrol? Yr ateb, yn ôl Arwel ‘Roced’ Jones yn y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar oedd, yn syml iawn, ‘i wneud elw!’. Mae ’na duedd inni gredu fod barddoniaeth Gymraeg uwchlaw y fath ystyriaethau bydol. Ond mae Roced yn llygad ei le. Heb y gallu i wneud elw does dim dyfodol i gyhoeddi barddoniaeth yn y Gymraeg ac felly rhaid i’r gweisg wneud eu gorau i gyhoeddi cyfrolau y mae pobol eisiau eu prynu. Yn hynny o beth, dw i’n siŵr fod y gyfrol gain, hardd, aml-gyfrannog hon wedi bod yn llwyddiant mawr. Marciau llawn i adran farchnata Barddas am ei chyoeddi hi jyst cyn Sul y Mamau!

Mae’r gyfrol yn mynd â ni ar daith farddol drwy’r berthynas rhwng mamau a’u plant. Mae yma gerddi am feichiogi, y geni, plentyndod, gadael y nyth, heneiddio ac mae yma hefyd nifer o farwnadau tyner gan feirdd i’w mamau. Mae yma sawl cerdd ar batrwm go debyg i’r englyn ‘Fy Mam’ gan W. Rhys Nicholas:

Gwen siriol oedd ei golud – a gweini’n
Ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd;
Bu fyw’n dda, bu fyw’n ddiwyd
A lle bu hon, mae gwell byd.

Mae hi’n werth oedi am eiliad uwch y llinell ‘a gweini’n ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd’. ‘Yeah, right!’ meddai’r ffeminydd ynof! Er gwaethaf eu crefft, mae cerddi fel y rhain yn atgyfnerthu y ddelfryd batriarchaidd o’r fam hunan-aberthol, ddi-rwgnach, ddarostyngedig, dawel. Delfryd na ddylwn, yn fy nhyb i mo’i derbyn yn ddi-gwestiwn mwyach. 

Yn hynny o beth, llawer gwell gen i yw gonestrwydd cymhleth y gerdd ‘Braint’ gan Mari George, golygydd y gyfrol. Mae hon yn gerdd am fam sydd wedi cael llond bol o’r ffernols bach!

Yn sŵn briwsion
a nodau poenus piano
camaf ar ddarn o Lego
a dyna hi.

Af drwy’r drws yn drw
a’i chwalu ar gau,
at y lôn
y breuddwydiaf amdani.

Ond yna, mae’r bardd yn troi yn ôl yn reddfol…

…am y drws
a’r swn
sy’n chwilio amanaf.

Gogoniant cyfrol fel hon yw bod yma amrywiaeth o leisiau, arddulliau a safbwyntiau, sydd yn adlewyrchu cyfnodau a gwerthoedd gwahanol. 

At ei gilydd mae’r cerddi sydd yn trafod profiad penodol yn apelio yn fwy ataf na’r cerddi hynny sydd yn tynnu darlun mwy cyffredinol. Mae’r telynegion ‘Twll yn yr ardd’ gan Myrddin ap Dafydd ac ‘Esgidiau’ gan Elin Meek yn apelio’n arw at fy emosiynnau ac fe wnaeth adeiladwaith feistrolgar  ‘Botwm Abi’ gan Ceri Wyn Jones, fy llorio. Mae cerdd chwaraeus ond dyner Casia Wiliam sy’n darlunio’r eiliad pan sylweddolodd ar ganol cyfarfod diflas ei bod hi’n feichiog, yn ardderchog:

Digon pethma oedd y cofnodion,
a dim ond fi sy’n gwybod dy fod yno
yn swatio rhwng y llinellau.

Tanysgrifio

Gallwch brynu rhifynnau o Gylchgrawn Barddas yn eich siopau lleol, ond y ffordd hawsaf i dderbyn Barddas trwy’r post yw tanysgrifio am gwta £25 y flwyddyn.

Tanysgrifio

Mae ’na le i gwestiynu gwerth argraffu cerddi fel ‘Dacw Mam yn dwad’ ar sail bod  y gair ‘Mam’ yn ymddangos ynddynt yn rhywle. Wedi dweud hynny, dw i’n siŵr y bydd sawl un yn profi gwefr wrth ail-ddarganfod hwiangerddi coll eu plentyndod. Yn hynny o beth mae nhw’n talu am eu lle (ac yn gwneud dim drwg i’r gwerthiant, debyg iawn).

Tydi pob cerdd yn y gyfrol ddim yn fy nghyffroi, a da o beth ydi hynny. Dyna natur casgliad o’r fath a byddai hwn yn hen fyd digon diflas tasa pawb yn gwirioni’r un fath! Ydi’r lluniau ‘retro’ o famau a babanod yn talu am eu lle? Wn i ddim. Ond dyma’r ffasiwn, debyg, gyda disgwyl i gyfrol fel hon apelio llawn gymaint i’r llygaid ag i unrhyw beth arall. Eto, os ydi hynny’n cynyddu gwerthiant, pwy ydw i gwestiynu?

Tydi perthynas pob mam a phlentyn ddim wastad mor syml nac mor siwgwrllyd ag yr awgrymir gan rai o’r cyfraniadau yma. Efallai y baswn i wedi hoffi gweld amrediad helaethach byth o safbwyntiau a phrofiadau. Ond ella taw fi yn bod yn eiconoclast ydi hynny! Mae hon yn sicir yn gyfrol werth chweil sydd yn cynnwys digon o gyfraniadau disglair gan feirdd sydd efo rhywbeth gwerth ei ddweud, a’r ddawn i’w ddweud o, ac onid dyna, yn y pen draw ydi diben cyhoeddi unrhyw gyfrol o gerddi?

Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau. 
Gol. Mari George, Cyhoeddiadau Barddas, £9.95


Awdur


Gruffudd Owen

Gruffudd Owen

Yn wreiddiol o Bwllheli, Gruffudd Owen yw Prifardd Eisteddfod Caerdydd 2018. Mae'n aelod o griw Bragdy'r Beirdd yn y ddinas, ac mae'n aelod o dîm talwrn y Beirdd Y Ffoaduriaid.

twitter.com/Gruffudd_Owen


Prif Far Ochr

Sidebar Adolygiad

Y llyfr dan sylw

Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

Clawr y gyfol Mam: Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

9.95
Mari George
Chwefror 25, 2019


Rhifyn dan sylw

341: Rhifyn Haf 2019

Clawr Rhifyn 341 Cylchgrawn Barddas 6 Haf 2019


Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Beirdd Barddas
  • Cysylltu
  • Preifatrwydd a Cwcis

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2021: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio.

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio. Mae cwcis yn gwneud pethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n helpu i ddeall pa rannau o'r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Mae angen cwcis angenrheidiol er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch chi'n rhwystro pob cwci ar ein gwefan, efallai na fydd yn gweithio'n iawn.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cwcis trydydd parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, pa ddolenni sy'n cael eu clicio, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Gall y cwcis hyn hefyd gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel cyfri nifer o weithiau mae fideos YouTube sydd wedi eu mewnblannu yn cael eu gwylio.

Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!