Casgliad o gerddi hen a newydd sy'n dathlu rôl y fam: yn gerddi gan feirdd sy'n famau eu hunain ac yn gerddi llawn atgofion am famau o bob oed. Plethir y cerddi ynghyd â darluniadau hynafol a dyluniad hardd sy'n gwneud y gyfrol yn anrheg perffaith ar gyfer Sul y Mamau neu ar gyfer unrhyw fam newydd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Casgliad o gerddi rhydd a chaeth, rhai’n newydd, rhai’n draddodiadol, rhai’n moli a rhai’n peri hiraeth. Dyma gyfrol hardd sy’n dathlu gwerth unrhyw fam, mam-gu neu nain. Gyda cherddi newydd gan Casia Wiliam, Elinor Gwynn, Rhys Iorwerth, Annes Glynn, Huw Meirion Edwards, Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd a Christine James.