• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Newyddion > Ailargraffu Mae, Mererid Hopwood

Ailargraffu Mae, Mererid Hopwood

21 Tachwedd, 2025

Gyda phawb mor awyddus i brynu yn dilyn y cyhoeddi, mae’n braf iawn cael rhannu bod y gyfrol Mae, Mererid Hopwood, wedi’i hailagraffu.

Mererid Hopwood

Rhwng y cyhoeddi a heddiw, mae yna eirdaon caredig dros ben wedi ein cyrraedd. Meddai Gareth Bonello bod yma ‘[g]asgliad cain sy’n troelli’n dyner o amgylch craidd ein bod.’ Dywedodd Manon Steffan Ros bod y ‘byd i gyd o fewn cloriau’r gyfrol bwerus hon’, a bod y cerddi ‘yn ddewr yn eu dweud a’u symlrwydd.’ Cafodd Ceri Wyn Jones flas garw ar y gyfrol hefyd, gan ddweud bod yma ‘[g]erddi sy’n credu yng ngallu iaith i ddod â phobol at ei gilydd a pheri iddyn nhw ddychmygu gwell byd.’

Sut i grynhoi Mae, felly? Llwyddodd Gwenno Saunders i daro’r hoelen ar ei phen. Meddai:

‘Rhoddir y gyfrol hon y teimlad o ymlwybro’n ysgafndroed i lawr at gwm wedi’i greu o gerddi, a’n tywys yn garedig tuag at galon ein seice cenedlaethol, at ddyfnderoedd yr anymwybod Cymreig – lle cynnes, cysurlon a chadarn, llawn cariad.’

Os nad ydych chi wedi mynnu eich copi eich hun o Mae, yna gobeithio bod y geirdaon hyn yn ddigon o ysgogiad. Ac i bawb sydd wedi prynu – diolch o galon am gefnogi Cyhoeddiadau Barddas, Mererid Hopwood, a’r neges daer am heddwch sy’n lliwio, ac yn llywio’r cerddi i gyd.

Cofnod blaenorol « Cronfa Gerallt yn cefnogi Kayley
Cofnod nesaf: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 »

Prif Far Ochr

Sidebar newyddion

Y llyfr dan sylw

Mae

Clawr cyfrol ‘Mae’, Mererid Hopwood

10
Mererid Hopwood
Gorffennaf 9, 2025


Newyddion yn ôl math

  • Newyddion y Gymdeithas
  • Newyddion y Cylchgrawn
  • Newyddion Cyhoeddiadau Barddas
  • Datganiad i'r wasg
  • Cystadlaethau

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899