Yn rhifyn 323: Rhifyn Haf 2014 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 323 | Tymor: Rhifyn Haf 2014
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £25 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Haf 2014
Gair i gofio am Gerallt yn ysgrif olygyddol Twm Morys.
Ceri Wyn Jones sy’n holi faint o bwyntiau sydd gennych chi ar eich trwydded farddol?
Yn y gyfres ‘Cymru’r Beirdd’, Hywel Griffiths sy’n trafod cywydd gan Lewys Glyn Cothi sy’n dangos bod byw gyda llifogydd yn brofiad sy’n trosgynnu’r oesau.
Ysgrif gan Hanna Hopwood sy’n bwrw golwg ar liwiau gwallt delfrydol yng nghanu’r Cywyddwyr.
Colofn arall o drydargerddi Llion Jones.
Colofnau difyr gan Gwyn Thomas, Dewi Prysor, Siân Northey, Ceri Wyn Jones ac Aneirin Karadog.
Llu o gerddi ac englynion newydd gan Huw Meirion Edwards, Ieuan Wyn, Ifor Baines, Tomos Dafydd, Idris Reynolds, Steffan Gwyn, Dewi Prysor, Guto Dafydd, Tegwyn Pughe Jones, Hywel Griffiths, Geraint Roberts, Iwan Davies ac Aled Lewis Evans.
Adolygiad o Buarth Beirdd gol. Eurig Salisbury (gan Peredur Lynch)
Adolygiad o Dan y Wenallt T. James Jones (gan Kate Crockett)
Adolygiad o Hoff Gerddi Coffa Cymru goln. Bethan Mair ac Elinor Wyn Reynolds (gan Siôn Aled)
Adolygiad o Mwy na Bardd Kate Crockett (gan Myrddin ap Dafydd)
Adolygiad o Beddau’r Beirdd Paul White, D.W. Davies a Mererid Hopwood (gan Jan Morris)
Adolygiad o Cymanfa T. James Jones (gan John Roberts)