• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Prosiectau > Cynllun Pencerdd

Cynllun Pencerdd

Rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol.

Mae Cynllun Pencerdd yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru.

Trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys, y gobaith yw y bydd hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu yn cynyddu, ac y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.

Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Mawrth 2024 a Mawrth 2025.

Darllenwch ragor am enwau’r beirdd dethol ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

“Mae rhoi cyfle i feirdd ifanc feithrin eu doniau cynganeddol yn greiddiol i genhadaeth Barddas.  Tra bod ysgolion barddol a gwersi cynganeddu ar-lein i’w cael ledled Cymru, nid yw’r gynghanedd yn cael braidd dim sylw yn ein hysgolion bellach. 

Hoffem ddiolch felly i Lenyddiaeth Cymru am allu darparu’r adnoddau a’r cyllid i greu cynllun arloesol.  Mae gennym bartneriaeth strategol gyda Llenyddiaeth Cymru ac mae’n braf gweld ein cyd-weithio yn dwyn ffrwyth.  Bydd Pencerdd yn gwneud llawer o ddaioni nid yn unig i’r pum bardd sydd wedi cael eu dewis, ond hefyd i fyd y canu caeth yn ehangach wrth roi cyfleon i leisiau newydd fireinio eu crefft a, gobeithio, dod yn benceirddiaid eu hunain.”

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899