Mae’n bleser gan Barddas gyhoeddi fod Ffion Medi Lewis-Hughes wedi’i phenodi’n Gydlynydd Barddas.

Mae Ffion ar hyn o bryd yn Uwch Swyddog Creadigol yn Theatr Felinfach a bydd yn ymuno â Barddas fis Awst. Mae hi’n byw yn Nhregaron, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020.
A hithau’n un o sylfaenwyr gwyl Tregaroc yn y dre, mae Ffion yn aelod gweithgar o sawl menter a gweithgaredd yn ei chymuned, o’r Eisteddfod Gadeiriol yn Nhregaron i’r Cylch Meithrin, a Ffion sefydlodd gôr Merched Soar, yn lled ddiweddar.
Mae’n edrych ymlaen at gyfnod cyffrous, wrth iddi ymuno â´r Gymdeithas Gerdd Dafod. Meddai Ffion:
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael ymuno â thîm gweithgar Barddas ac i gyfrannu at ymdrechion y Gymdeithas i symud ymlaen at y cam nesaf yn ei datblygiad. Mae’r swydd yn argoeli i fod yn un ddiddorol ac amrywiol dros ben a dwi’n barod am yr her newydd sydd o’m blaen”.
Dywedodd Cadeirydd Barddas, Aneirin Karadog ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at bennod newydd yn hanes Barddas, o dan ofal Ffion:
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae Barddas fel cylchgrawn, cyhoeddwr llyfrau a chynheiliad y grefft o gynganeddu a barddoni wedi profi newidiadau mawr er gwell, newidiadau sy’n gwneud Barddas yn berthnasol i’r oes ddigidol ond sydd hefyd yn rhoi pwys mawr ar gynrychioli ein haelodau sydd o bob oedran, cefndir a lleoliad yng Nghymru a thu hwnt. Bydd Ffion yn parhau i arloesi ar ran Barddas, yn wyneb cyfeillgar i’n haelodau ar stondin Barddas bob steddfod, ond hefyd yn aelod gweithgar gyda gweledigaeth bellgyrhaeddgar drwy gydol y flwyddyn wrth ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, lle bo hyrwyddo, marchnata a datblygu cyhoeddiadau a digwyddiadau Barddas yn y cwestiwn.”
Cydlynydd Barddas sy’n gyfrifol am weinyddu, marchnata a hyrwyddo’r Gymdeithas Gerdd Dafod (a adnabyddir fel Barddas). Wrth i Barddas ddatblygu partneriaethau, er enghraifft, dod yn bartner llawn o gynllun Bardd Plant Cymru, bydd y cydlynydd yn gyfrifol am ystod ehangach o weithgareddau.
Mae’n gymdeithas fywiog a gweithgar sy’n cyhoeddi llyfrau o dan adain Cyhoeddiadau Barddas ac yn cyhoeddi Cylchgrawn Barddas, bedair gwaith y flwyddyn, yn mis Hydref, Ionawr, Ebrill a Gorffennaf. Bydd Ffion Medi Lewis-Hughes yn ymuno â Barddas yn swyddogol, ddydd Llun, yr 20fed o Awst.
Wrth groesawu Ffion i swydd y cydlynydd carai Barddas ddiolch o waelod calon i Iola Wyn am ei gwaith aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Daeth â ffresni ac egni rhyfeddol i weithgarwch y gymdeithas.