Dyma’r ail lyfr yn y gyfres ddwyieithog hon sy’n adrodd hanes rhai o brif feirdd a phrif lenorion Cymru, gyda’r bwriad o gyflwyno’r enwogion hyn i gynulleidfa ehangach.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Bardd a heddychwr oedd Waldo Williams. Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol a gredai mewn brawdoliaeth dyn. Mae ei farddoniaeth yn rhoi mynegiant i’w weledigaeth ynghylch brawdgarwch byd-eang, ond gwrthododd gyhoeddi cyfrol o’i gerddi nes y byddai wedi gweithredu yr hyn a gredai, gan droi geiriau yn weithredoedd.