![mwy_na_bardd (1) Mwy na Bardd - Bywyd a Gwaith Dylan Thomas](https://www.barddas.cymru/wp-content/uploads/2018/07/mwy_na_bardd-1.jpg)
"Un o’r cofiannau mwyaf darllenadwy y gafaelais ynddynt erioed" (Myrddin ap Dafydd)
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Adolygiadau
‘Un o’r cofiannau mwyaf darllenadwy y gafaelais ynddynt erioed’: Myrddin ap DafyddDisgrifiad
Cymro balch neu fradwr gwrth-Gymreig? Meddwyn di-chwaeth neu fardd sensitif? Pwy oedd y Dylan Thomas go iawn? Ganrif ers ei eni, mae Kate Crockett yn pwyso a mesur ambell gwestiwn sylfaenol ynghylch un o ffigurau llenyddol enwocaf Cymru, gan adrodd ei hanes yn llawn yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
Mae Kate Crockett yn newyddiadurwraig a chyflwynwraig brofiadol sy’n arbenigo ym maes y celfyddydau, ac yn un o gyflwynwyr Y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru. Mae ganddi radd M.Phil mewn llenyddiaeth Gymraeg o Brifysgol Cymru Aberystwyth (2000), a diddordeb byw yn niwylliant Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg.