Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Menu
  • Skip to left header navigation
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
Home > Llyfrau > Macbeth – William Shakespeare (Cyfieithiad gan Gwyn Thomas)

Macbeth – William Shakespeare (Cyfieithiad gan Gwyn Thomas)

Macbeth - cyfieithiad Gwyn Thomas

Cyfieithu trasiedi fawr Shakespeare, Macbeth ar gyfer cynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru oedd un o gymwynasau olaf y diweddar Athro Gwyn Thomas i lenyddiaeth Cymru.

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Pris: 6.95

Prynu ar wefan Gwales



Awdur

Gwyn Thomas
Gwyn Thomas

Dyddiad Cyhoeddi: Chwefror 7, 2017

Rhif ISBN: 9781911584001

Categori: Drama

Disgrifiad

“Drama ysgytwol ac ofnadwy am wr o anrhydedd yn cael ei lygru gan ei uchelgais”. Dyna sut y disgrifiodd yr ysgolhaig a’r llenor toreithiog y drasiedi yn ei hunangofiant llenyddol Llyfr Gwyn: Cyfres Llenorion Cymru (Cyhoeddiadau Barddas)

Yn ôl ei weddw Jennifer Thomas, fe fu’n gweithio ar y cyfieithiad am gryn amser, ac mae’n cofio iddo gael sgwrs gydag Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau yn 2015. Yn rhagair Macbeth, mae Arwel Gruffydd yn cyfeirio at y sgwrs gyfeillgar honno, sydd wedi arwain at y cynhyrchiad unigryw hwn gan Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd y drasiedi’n cael ei pherfformio oddi mewn i furiau Castell Caerffili o’r 7fed i’r 18fed o Chwefror.

“Tristwch o’r mwyaf yw na chafodd Gwyn fyw i weld ei gyfieithiad yn cael ei lwyfannu” meddai Arwel Gruffydd. Ac yn ystod ei waeledd olaf, mae’n falch iddo fedru rhoi ar ddeall iddo ei fod yn bwriadu llwyfannu’r ddrama.

Richard Lynch sy’n portreadu Macbeth, a Ffion Dafis, un o gyn-fyfyrwyr Gwyn Thomas sy’n chwarae rhan Yr Arglwyddes Macbeth. Yn ôl yr actores o Fangor, mae’n fraint aruthrol i gael perfformio gwaith un o’i hoff ddarlithwyr yn y Brifysgol ym Mangor.

“Fe welodd fi yn chwarae rhan Esther, Saunders Lewis, pan oeddwn yn un ar bymtheg oed yn Ysgol Tryfan, a fyth ers hynny, fe gefnogodd fy ngyrfa, gan apelio arnai i wneud mwy o waith llwyfan” meddai. “Mae’n gyfieithiad prydferth, yn gampwaith sy’n rhodd ganddo” ychwanega.

Yn ôl Jennifer Thomas, mi fyddai ei gwr wrth ei fodd yn gwybod taw Ffion Dafis sy’n chwarae rhan yr Arglwyddes. Mae’n cofio iddynt wylio perfformiad pwerus Ffion ym monolog Aled Jones Williams, Anweledig, ac i’w gwr droi ati ar ddiwedd y perfformiad, a datgan y byddai Ffion yn ‘Ledi Macbeth fendigedig’.

Nid dyma’r cyfieithiad cyntaf gan Gwyn Thomas o waith Shakespeare. Cyhoeddwyd Y Dymestl yn 1996 a Breuddwyd Nos Wyl Ifan yn 2000, ac addasodd ddramâu Shakespeare ar gyfer ffilimiau animeiddiedig i S4C. Cyfeiria at Shakespeare droeon yn ei hunangofiant llenyddol Llyfr Gwyn, gan bwysleisio’r angen am amrywiaeth o gyfieithiadau o ddramâu’r byd yn y Gymraeg, fel bod yna ddefnyddiau ar gael i brofi doniau actorion. A sonia yn benodol am Macbeth yng nghyd-destun ehangach bywyd, gyda neges sydd mor berthnasol heddiw ag erioed.

“Y mae yna enghreifftiau mor frawychus o ddrygioni fel ei bod hi’n anodd i bobl ar hyd yr oesoedd beidio â meddwl fod yna bwerau arallfydol (fel y gwrachod yn Macbeth) yn chwarae rhyw ran ynddyn nhw”.

Llyfrau tebyg

Medeia – Euripedes (trosiad Gwyneth Lewis)

Medeia

6.95
Gwyneth Lewis
Hydref 11, 2016

Y Storm – Addasiad Gwyneth Lewis

Y Storm - Gwyneth Lewis

6.95
Gwyneth Lewis
Gorffennaf 27, 2012

Sut i Greu Drama Fer

Sut i Greu Drama Fer

6.95
Emyr Edwards
Ebrill 28, 2012

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Beirdd Barddas
  • Cysylltu
  • Preifatrwydd a Cwcis

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2021: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio.

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg

Mae'r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ba mor dda mae ein gwefan yn gweithio. Mae cwcis yn gwneud pethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n helpu i ddeall pa rannau o'r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol yn eich barn chi.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Mae angen cwcis angenrheidiol er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch chi'n rhwystro pob cwci ar ein gwefan, efallai na fydd yn gweithio'n iawn.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cwcis trydydd parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, pa ddolenni sy'n cael eu clicio, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Gall y cwcis hyn hefyd gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel cyfri nifer o weithiau mae fideos YouTube sydd wedi eu mewnblannu yn cael eu gwylio.

Please enable Strictly Necessary Cookies first so that we can save your preferences!