• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Llyfrau > Llwybrau

Llwybrau

Llwybrau - Haf Llywelyn

Cyfrol gyntaf bardd sy'n byw ym mro'r Eisteddfod Genedlaethol 2009.

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Pris: 6.00

Prynu ar wefan Gwales



Awdur

Haf Llywelyn

Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 14, 2009

Rhif ISBN: 9781906396039

Categori: Barddoniaeth

Disgrifiad

Wrth i’r gyfres radio boblogaidd Talwrn y Beirdd ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, dywedodd y Meuryn, Gerallt Lloyd Owen, fod y rhaglen wedi bod yn hwb i nifer o bobl ddechrau barddoni a bod llawer mwy o ferched erbyn hyn yn aelodau o dimau gwahanol. Un o’r merched hynny yw Haf Llewelyn, y bardd o Lanuwchllyn ond sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Nantcol, Ardudwy. Yn wir, enillodd Haf Dlws Coffa Cledwyn Roberts am y delyneg orau yng nghyfres y Talwrn yn 2002. Braf felly yw cael croesawu ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.

Er bod Haf wedi byw ym Mhenllyn ers blynyddoedd bellach nid yr ardal honno sy’n ysbrydoli ei cherddi. Mae’n dychwelyd i ardal ei mebyd, i ddyddiau ei hieuenctid, lle cafodd ei magu ar fferm yng Nghwm Nantcol. Dywed y bardd ei hun fod y môr a hanes Ardudwy yn ei thynnu’n ôl ac mae hyn yn amlwg iawn yn ei gwaith. Mae llawer o’r cerddi’n darlunio bywyd cefn gwlad ac ardal sydd wedi newid yn sgil y mewnlifiad. Mae’r gerdd ‘Enw’, er enghraifft, yn sôn am fferm Llwyngwian yn Ardudwy a gafodd ei phrynu gan fewnfudwyr a newidiodd yr enw i fod yn ‘Meadow Farm’. Rhai o gerddi gorau’r gyfrol yw ‘Beth sy’n Bod ar Gymru?’ sy’n sôn am ddiffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth pobl o’n diwylliant ni fel Cymry – ‘The trouble with Wales – it doesn’t ave culture.’

Trawiadol iawn hefyd yn llinellau agoriadol ‘Meirionnydd’–

Mae ’na fannau yma ’Meirion
all dorri ’nghalon i yn deilchion;
ma ’na fannau nad af yno
am nad ŷn nhw’n lle i Gymro.

Mae yma gerddi mwy personol yn y gyfrol hefyd, cerddi am berthynas a cherddi am aelodau o’r teulu – ‘Nain yn Llnau’r Capel’, ‘Rhyw Bethau Bach…’ am ei thad, a ‘Cwrlid’ am ei mam a’r gerdd ‘Crud’ a ysgrifennodd i Grisial, ei merch, wrthi iddi ddathlu ei phen-blwydd yn ddeunaw oed. Blas yn unig yw hyn o gyfrol gyntaf addawol iawn gan fardd sy’n prysur ennill ei phlwyf. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o’i gwaith.

Nest Gwilym

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Llyfrau tebyg

Trysorau’r Nadolig

Clawr Trysorau'r Nadolig

12.95
Jo Heyde
Hydref 31, 2025

Mae

Clawr cyfrol ‘Mae’, Mererid Hopwood

10
Mererid Hopwood
Gorffennaf 9, 2025

Holl Lawenydd Gwyllt

Clawr Holl Lawenydd Gwyllt Llŷr Gwyn Lewis

9.95
Llŷr Gwyn Lewis
Mehefin 4, 2025

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899