
Cyfrol gyntaf bardd sy'n byw ym mro'r Eisteddfod Genedlaethol 2009.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6.00
Disgrifiad
Wrth i’r gyfres radio boblogaidd Talwrn y Beirdd ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, dywedodd y Meuryn, Gerallt Lloyd Owen, fod y rhaglen wedi bod yn hwb i nifer o bobl ddechrau barddoni a bod llawer mwy o ferched erbyn hyn yn aelodau o dimau gwahanol. Un o’r merched hynny yw Haf Llewelyn, y bardd o Lanuwchllyn ond sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Nantcol, Ardudwy. Yn wir, enillodd Haf Dlws Coffa Cledwyn Roberts am y delyneg orau yng nghyfres y Talwrn yn 2002. Braf felly yw cael croesawu ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Er bod Haf wedi byw ym Mhenllyn ers blynyddoedd bellach nid yr ardal honno sy’n ysbrydoli ei cherddi. Mae’n dychwelyd i ardal ei mebyd, i ddyddiau ei hieuenctid, lle cafodd ei magu ar fferm yng Nghwm Nantcol. Dywed y bardd ei hun fod y môr a hanes Ardudwy yn ei thynnu’n ôl ac mae hyn yn amlwg iawn yn ei gwaith. Mae llawer o’r cerddi’n darlunio bywyd cefn gwlad ac ardal sydd wedi newid yn sgil y mewnlifiad. Mae’r gerdd ‘Enw’, er enghraifft, yn sôn am fferm Llwyngwian yn Ardudwy a gafodd ei phrynu gan fewnfudwyr a newidiodd yr enw i fod yn ‘Meadow Farm’. Rhai o gerddi gorau’r gyfrol yw ‘Beth sy’n Bod ar Gymru?’ sy’n sôn am ddiffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth pobl o’n diwylliant ni fel Cymry – ‘The trouble with Wales – it doesn’t ave culture.’
Trawiadol iawn hefyd yn llinellau agoriadol ‘Meirionnydd’–
Mae ’na fannau yma ’Meirion
all dorri ’nghalon i yn deilchion;
ma ’na fannau nad af yno
am nad ŷn nhw’n lle i Gymro.
Mae yma gerddi mwy personol yn y gyfrol hefyd, cerddi am berthynas a cherddi am aelodau o’r teulu – ‘Nain yn Llnau’r Capel’, ‘Rhyw Bethau Bach…’ am ei thad, a ‘Cwrlid’ am ei mam a’r gerdd ‘Crud’ a ysgrifennodd i Grisial, ei merch, wrthi iddi ddathlu ei phen-blwydd yn ddeunaw oed. Blas yn unig yw hyn o gyfrol gyntaf addawol iawn gan fardd sy’n prysur ennill ei phlwyf. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o’i gwaith.
Nest Gwilym
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.