
Dros ddeugain mlynedd wedi cyhoeddi Yr Aelwyd Hon, mae’r ysgolhaig a’r bardd Gwyn Thomas wedi troi yn ôl unwaith eto at ein cerddi Cymraeg cynharaf gan roi llais newydd i ddiweddariadau o’r canu englynol.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Yn eu plith ceir canu crefyddol, canu natur a gwirebau, ac englynion sydd â chysylltiad â chwedlau ac yn benodol, y tri phrif gylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd.
“Yr un peth, yn anad dim, y ceisiwyd ei wneud, oedd sicrhau fod yna rythm yn y llinellau,” meddai.
Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys rhagymadrodd difyr sy’n cynnig blas ar gefndir yr hen englynion.