
Greddf sydd wrth wraidd y gyfrol synhwyrol hon. Dyma gasgliad o gerddi sydd wedi cael eu hysbrydoli gan y chwarter eiliad pan fo rhywbeth yn cydio ac yn ysbrydoli cerdd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Ceir yma gerddi am atgofion, byd natur ac am berthyn. Maent yn cwmpasu bywyd y bardd, Jo Heyde, o’i phlentyndod cynnar hyd at heddiw, ac mae’r holl liwiau, gweadau a’r blasau yn goferu gyda cherddoriaeth y gynghanedd a’r Gymraeg.
“Mae cyffro’r bardd o fod wedi darganfod y Gymraeg – ei geiriau, ei chynghanedd, ei phosibiliadau – yn pelydru drwy gloriau’r gyfrol hon. Fel ‘eiliad’ Waldo Williams, a ‘goleddf golau’ Emily Dickinson, mae cerddi Jo Heyde yn rhoi llais i brofiadau byrhoedlog a’u dal yn y dweud arhosol.” – Mererid Hopwood