• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Llyfrau > Bylchau

Bylchau

Bylchau - Aneirin Karadog

‘Colled bersonol wnaeth sbarduno Aneirin Karadog i ddwyn ynghyd ei ail gyfrol o gerddi, sef marwolaeth ei gyfnither Cathryn bron i ddwy flynedd yn ôl.

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Pris: 8.95

Prynu ar wefan Gwales



Awdur

Aneirin Karadog - Cadeirydd Barddas
Aneirin Karadog

Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 28, 2016

Rhif ISBN: 9781906396923

Categori: Barddoniaeth

Disgrifiad

Mae’r gyfrol hon hefyd yn myfyrio ar y bylchau sy’n cael eu gadael ym mywyd y genedl yn dilyn marwolaeth rhai o gewri ein llên a’n diwylliant. Ond wrth ystyried goblygiadau colled, mae’r bardd hefyd yn cael ei gymell i feddwl am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny ac i ddathlu yr hyn sy’n cael ei feithrin o’r newydd – genedigaeth ei ferch, Sisial, cael ei benodi’n Fardd Plant Cymru, arwyr megis Nigel Owens, Jamie Bevan, Chris Coleman ac Osian Roberts, a sefydlu Radio Beca.

Mae Bylchau hefyd yn cynnwys cerddi sy’n archwilio perthynas y bardd â Llydaw, a’r ffaith iddo gael ei fagu ar aelwyd amlieithog yn s?n y Gymraeg a’r Llydaweg. Beth mae bod yn hanner Llydawr yn ei olygu i Aneirin Karadog? A sut mae’n dylanwadu ar ei agwedd tuag at iaith a diwylliant Cymru? Sut mae byw yn rhan o fwy nag un diwylliant?

Trwy ei gerddi cynganeddol byrlymus a’i gerddi rhydd telynegol, mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n sicr yn cynnig byd-olwg gwahanol i weddill beirdd Cymru ac mae ei afiaith mor heintus ag erioed.

Llyfrau tebyg

Trysorau’r Nadolig

Clawr Trysorau'r Nadolig

12.95
Jo Heyde
Hydref 31, 2025

Mae

Clawr cyfrol ‘Mae’, Mererid Hopwood

10
Mererid Hopwood
Gorffennaf 9, 2025

Holl Lawenydd Gwyllt

Clawr Holl Lawenydd Gwyllt Llŷr Gwyn Lewis

9.95
Llŷr Gwyn Lewis
Mehefin 4, 2025

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899