
Dyma gerddi gafodd eu hysgrifennu dros gyfnod o bum mlynedd o godi pac a chrwydro cyfandir Ewrop a'r Unol Daleithiau.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 5.95
Disgrifiad
Daeth Elan Grug Muse i sylw’r byd llenyddol Cymraeg drwy ennill Cadair Genedlaethol yr Urdd yn 2013. Ers hynny, aeth ymlaen i fireinio’i chrefft drwy gyhoeddi yn gyson mewn cylchgronau Cymraeg a Saesneg. Ffrwyth myfyrdod y cyfnod hwnnw o deithio ac astudio yw ei chyfrol gyntaf o gerddi, Ar Ddisberod.
Ynddi mae’n mapio’r daith o’i bro enedigol yn Nyffryn Nantlle i brifysgolion Nottingham a’r Weriniaeth Tsiec. Bu’n byw hefyd am gyfnodau yn Sbaen a’r Unol Daleithiau cyn dychwelyd i barhau gyda’i hymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Dyddiadur barddol ydyw sy’n cofnodi ei theimladau dyfnaf, ac wrth y mwyafrif o’r cerddi nodir y flwyddyn a’r man lle taniwyd y dychymyg.
Ei champ fu cyfleu naws y lleoliadau hyn mewn cardiau post o gerddi byrion. Drwy gyfrwng delweddau llachar daw’r eiliadau a ddaliwyd yn brofiad i ninnau hefyd. Gan mor synhwyrus yw’r dweud, cawn arogli’r coed almwn ym Madrid, gwrando ar sgrechian bygythiol gwylanod Cape Cod a gwisgo’r cotiau gwlân sy’n ein cadw’n gynnes yn nosweithiau rhynllyd Prag.
Un o’i phrif ddiddordebau academaidd yw llif poblogaethau ar draws y gwledydd, ac adlewyrchir hynny yn y cerddi wrth iddi geisio dod o hyd i’w hunaniaeth mewn cymdeithas amlieithog ac amlhiliol sy’n troi’n fwyfwy symudol. Wrth chwilio am ei gwreiddiau sylweddola fod etifeddiaeth ei Grampa Americanaidd yn gymaint rhan o’i chynhysgaeth ag ydyw milltir sgwâr ei thaid a’i gap stabal yn Arfon gynt.
Er hynny, gŵyr hithau fod ein broydd, fel ninnau, yn dieithrio’n gyflym ac y bydd raid iddi felly bacio’r atgofion cynnar hyn yn ofalus yn ei rycsac wrth godi pac a symud ymlaen i groesi’r ffiniau newydd a chofleidio’r dyfodol dieithr yn ei holl orfoledd a’i dristwch.
Mae ganddi feddwl agored a llais ifanc, anturus sydd yn werth gwrando arno. Ymunwch gyda hi ar y daith. Fe’i cewch yn gydymaith difyr – a heriol hefyd.